Chwiliwch Newyddion
Categorïau Newyddion a Gwyb
Newyddion Diweddaraf
- Photo Competition for Actif Woods Wales
- Expressions of interest are invited to host local project officers in Wrexham and Neath Port Talbot
- Swyddi Coed Lleol yn Nghastell-nedd Port Talbot a Wrecsam
- British Horse Loggers Charitable Trust Welsh Apprentice - an invitation to apply
- Job application with Coed Lleol
Archif Newyddion
Bydd dau seminar undydd cael eu hanelu at broffesiynolion, sefydliadau ac unigolion iechyd sydd â diddordeb mewn cysylltu gofal iechyd gyda’r amgylchedd naturiol, yn cael eu cynnal yn Aberystwyth a Threherbert ar 16 a 23 Mawrth.
Bydd y seminarau’n trafod theori ac ymarfer y manteision iechyd sy’n codi o ymarferion gwyrdd, gan adeiladau ar wybodaeth a phrofiad cyfranogwyr ac arweinwyr prosiect Coed Actif Cymru. Bydd cyfle i fynd allan i’r coedwigoedd a phrofi rhai o’r gweithgareddau, o’r gampfa werdd i waith coed.
Coed Lleol seminar days poster- bilingual
Ffurflen bwcio- dirwnod seminar
Rhaglen -Brwdfrydedd dros rannu gwybodaeth ynghylch- Aberystwyth 16 Mawrth 2012
Rhaglen- Brwdfrydedd dros rannu gwybodaeth ynghylch- Treherbert 23 Mawrth 2012
Hyd yn hyn, mae prosiect Coed Actif Cymru wedi canolbwyntio ar sefydlu gweithgareddau iechyd coetir sy’n cael eu rhedeg yn ac o gwmpas Aberystwyth, Ceredigion ac yn Nhreherbert yn Rhondda Cynon Taf ac sy’n cael eu hariannu gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mae’r sesiynau, sydd am ddim, wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer pobl gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd cronig megis iselder, osteoarthritis, clefyd y siwgr a phroblemau’r galon. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan nifer o sefydliadau’r sector iechyd, gan gynnwys y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol (NERS) a MIND.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cerdded Llychlynnaidd, sgiliau gwaith coed gwyrdd, sgiliau crefftau llwyn, adnabod planhigion ac anifeiliaid, cynnau tân - a dim ond cerdded a mwynhau’r coetiroedd. Mae pobl gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol o arthritis i iselder, yn cymryd rhan.
Meddai Zena Wilmot o Bartneriaeth Coed Lleol, sy’n rhedeg y sesiynau: “Rydyn ni i gyd yn gwybod fod ymarfer corff yn llesol i ni, ond nid yw mynd i’r gampfa’n iawn i bawb.
“Mae’r prosiect hwn wedi dangos fod cerdded neu fod yn fywiog mewn coetir yn wirioneddol allu gwella iechyd a lleihau stres, ac, yr un pryd, yn gallu adeiladu diddordebau, datblygu sgiliau a chael llond trol o hwyl.
“Bydd y dyddiau hyn yn gyfle i rannu profiadau ac archwilio’r wyddoniaeth y tu ôl i’r theori yn ogystal ag i bobl o wahanol sectorau rwydweithio.”
Cynhelir y diwrnod yn Aberystwyth ddydd Gwener 16 Mawrth o 10.00 - 4.30pm yng Nghanolfan y Morlan a Choedwig Penglais. Cynhelir y diwrnod yn Nhreherbert ddydd Gwener 23 Mawrth o 9.30am – 3.00pm yn swyddfa Prosiect Penyrenglyn a choedwig Cwm Saerbren.
Mae’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim a darperir cinio a lluniaeth. Am ragor o fanylion neu i archebu lle, cysylltwch â Jo neu Zena:
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
, 01654 700061.

01654 700061.