Coedlannau Cymunedol Cymru

      

Mae Cymdeithas Coedlannau Cymunedol Cymru wedi ei ffurfio!

Crëwyd y Gymdeithas hon yn ddiweddar i hyrwyddo a chynrychioli grwpiau coedlannau a arweinir gan y gymuned yng Nghymru, ac i roi cymorth a chefnogaeth i grwpiau coedlannau cymunedol lleol a chynlluniau sy’n anelu at hyrwyddo pobl leol i gymryd rhan mewn coedlannau er budd cadwraeth, mwynderau, datblygiad economaidd a mwynhad.

Nodau

  1. Hyrwyddo a chynrychioli grwpiau coedlannau cymunedol yng Nghymru.

  2. Rhoi cymorth a chefnogaeth i grwpiau a chynlluniau coedlannau cymunedol lleol.

Amcanion

    • Rhwydweithio – ymysg grwpiau coedlannau cymunedol

    • Rhwydweithio gyda grwpiau ac asiantaethau eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

    • Codi proffil coedlannau o fewn y gymuned ehangach

    • Ymgysylltu â pholisi

    • Datblygu arferion a rhannu gwybodaeth a sgiliau

    • Mynediad at incwm drwy gydweithredu.

Y stori hyd yma ...

 

Mae’r syniad o gorff i gynrychioli a chefnogi coedlannau cymunedol wedi ei drafod nifer o weithiau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.  Ym Mawrth 2008 penderfynodd Cynhadledd Rhwydweithio Coedlannau yn CAT ffurfio Fforwm Coedlannau Cymunedol Cymru a gefnogid gan Coed Lleol.  Sefydlwyd gweithgor er mwyn datblygu strwythur, dull o lywodraethu a gweithgareddau’r Fforwm, gan dynnu sylw at flaenoriaethau ac unrhyw broblemau posibl.

Yng nghyfarfod cyntaf y gweithgor ym mis Gorffennaf 2008 penderfynwyd ailenwi’r fforwm a’i galw’n Gymdeithas Coedlannau Cymunedol Cymru, mabwysiadu cyfansoddiad a phenderfynu ar feini prawf ar gyfer nodau ac amcanion ffurfiol ac aelodaeth.

I gael manylion pellach lawrlwythwch y cofnodion (pdf) o gyfarfod y gweithgor.

 

Sut i gymryd rhan

A oes gan eich grŵp ddiddordeb mewn dod yn aelod?  Dros y misoedd i ddod byddwn yn datblygu cynlluniau i fynd â’r syniadau hyn yn eu blaen - rhowch wybod inni sut y gall y gymdeithas newydd eich helpu chi i gyflawni eich uchelgais ar gyfer coedlannau cymunedol lleol.

Mae’r gweithgor yn ymestyn gwahoddiad agored i unigolion sy’n ymwneud â choedlannau cymunedol ac sy’n dymuno mynychu cyfarfodydd a chymryd rhan.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Fforwm trafodaeth ar-lein yma (Coedlannau Cymunedol Cymru)

 

 

Newyddion Diweddaraf

 

Ar Fedi 3ydd a’r 4ydd trefnodd CGGC/WCVA a Choed Lleol gyfarfod dau ddiwrnod.

 

DIWRNOD 1: ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Strategaeth Coedlannau Cymru – Beth nesaf?  Daeth Mike Pitcher o CCC/FCW i gyflwyno’r ddogfen a’r newidiadau arfaethedig.  Yna drafftiodd y grŵp ymateb ar y cyd gan CCGC.  Mae amser o hyd i gyflwyno eich syniadau a’ch sylwadau – cysylltwch â ni erbyn 6 Hydref.

 

Lawrlwythwch ein hymateb i’r holiadur ymgynghori yma.

 

DIWRNOD 2: Cyfarfod o weithgor CCGC.  Daeth Jon Hollingdale o’r Community Woodland Association yn yr Alban i rannu ei wybodaeth gyda’r grŵp.

 

Lawrlwythwch gofnodion y cyfarfod yma.

         Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net