Sir Frycheiniog – De Powys  
     
 

- Lleoliad Coedlannau

Ewch â’r llygoden dros y lleoliadau i ddarganfod eu henwau. Cliciwch ar y lleoliadau am fwy o fanylion.

 
     
 

38. Tywi Forest 39. Fwng 40. Irfon 41. Crychan 42. Recreation at Talybont 43. Recreation at Halfway 44. Tywi Forest Fannog 45. Pwll-y-Wrach 46. Rook Wood, Powys 47. Park Wood, Powys 48. Coed Dyfodol Sarnau, Powys 49. Coed Cefn, Powys 50. Abertreweren, Powys 51. Coed Glyn Gwennws, Powys 52. Battle Hill 53. Taf Fechan Forestry Commission 54. Waterfalls 55. Glasfynydd 56. Coed Taf Fawr 57. Cwm Giedd 58. Blaen Llia 59. Mynydd Du

 
     
  38.  Coedwig Tywi  Coedwig Tywi  
     
  SN825540 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Mae Coedwig Tywi yn blanhigfa enfawr sy’n ymestyn dros ben y bryniau a’r dyffrynnoedd yn y mynyddoedd uwchlaw Tregaron yng Nghanolbarth Cymru. Mae tirlun unigryw Coedwig Tywi yn sicrhau golygfeydd ysblennydd gan gynnwys dros gronfa ddŵr Llyn Brianne.  
     
  39. Fwng  
     
  SN880470 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Safle picnic gyda llwybr cylchol 1 milltir o hyd.  
     
  40. Irfon  
     
  SN880470 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Tri bloc o goedwig, a wahanir gan ddau ddyffryn lle gwelir golygfeydd hyfryd o fryniau a mynyddoedd, bylchau a dyffrynnoedd, porfeydd agored a choedwig drwchus, nentydd a rhaeadrau.  
     
  41. Crychan  
     
  SN798378 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coedwig fawr sy'n rhwydd i'w threiddio, wedi ei hollti gan llawer o gymoedd gyda nifer o nentydd. Mae Crychan yn ffinio â maes tanio’r fyddin.  
     
  42. Hamdden - Talybont  
     
  Saif coedwig Tal-y-Bont ar ochr Glyn Collwn a Chronfa Ddwr Tal-y-Bont. Mae rhaeadrau Blaen-y-Glyn ym mhen uchaf y goedwig. Ar ddiwedd y 19eg ganrif 'roedd o leiaf deg fferm yma. 'Roedd caeau bach â waliau cerrig o gwmpas pob ffermdy, gyda'r coetir gerllaw yn rhoi coed i adeiladu a thanwydd. Yn ystod y 19eg ganrif cludwyd calchfaen ar hyd tramffordd Bryn Oer a rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful i gymoedd De Cymru. Mae hen hynt y rheilffordd bellach yn rhan o Lwybr Tâf ac mae llwybr troed yn dilyn y tramffordd. Mynediad trwy

Upper Blaen-y-Glyn  SO 056178

 
     
 

(Brig)

 
     
  43. Hamdden - Halfway  Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coediwg conifferau yn bennaf mewn dyffryn gydag ochr serth yn arwain i dir ymarfer y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae Taith Gerdded 1 i 2 milltir wedi'i chyfeirbwyntio. Mae’n cychwyn o'r safle parcio yn y gyffordd gyntaf. Mae'r daith gylchol HAWDD yma yn dilyn dwy ochr afon Nant y Dresglen.Mynediad trwy

Halfway SN835330

Crychan SN798378

 
     
  44. Fannog Coedwig Tywi Fannog  
     
  SN 810514 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Lleolir Fannog ar ochr ddwyreiniol cronfa ddŵr Llyn Brianne ac ym mhen deheuol Coedwig Tywi. Ceir golygfeydd gwych o’r ardal ac mae yma ardaloedd eang ar gyfer mwynhad awyr agored.  
     
  45. Pwll-y-Wrach  
     
  SO 165326, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog  
     
  21 erw (8.5 ha) o goedlan lydanddail o ddiddordeb botanegol sylweddol a leolir mewn dyffryn cul gydag ochrau serth. O fewn y warchodfa hefyd ceir rhaeadr gwych, wynebau chwareli a hen ffordd dramiau. Mae llwybr daeareg hefyd a thaflen i gyd-fynd â’r nodweddion daearegol.  
     
  46. Coedwig Rook, Powys  
     
  SO218407 Coed Cadw 10.4 ha (25.7 erw)  
     
  Mae Coedwig Rook yn goedlan hynafol o goed llydanddail cymysg ychydig i’r de o Gelli Gandryll, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Sefydlwyd planhigfa o goed ffawydd ar y safle ym 1955, ond yn dilyn gwaith teneuo yn yr 1990au a dirywiad cyffredinol yn y cnwd o goed ffawydd, goruchafir y safle yn gynyddol gan goed ynn, bedw, deri a choed llydanddail brodorol eraill.  
     
  47. Coedwig Coed y Parc, Powys  
     
  SO166346 Coed Cadw 57.13 ha (141.17 erw)  
     
  Mae Coed y Parc yn rhimyn cul hir o goedlan ar esgair mynydd isel sy’n edrych dros dref gyfagos Talgarth. Mae’n nodwedd bwysig o fewn y tirlun am filltiroedd lawer i’r gorllewin ac i’r gogledd. Mae’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar raddfa resymol o fewn y tirlun mynyddig oddi amgylch.  
     
 

(Brig)

 
     
  48. Coed Dyfodol Sarnau, Powys  
     
  SO022325 Coed Cadw 10.14 ha (25.06 erw)  
     
  Lleolir Coed Dyfodol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n gyfuniad o goedlan lled-naturiol hynafol, coedlan newydd ar safle cyn-goedlan hynafol, dôl sy’n tyfu gwair a phorfa frwyn. Mae llawer o’r safle yn cael ei hadfer er mwyn ailsefydlu cynefinoedd lled-naturiol a chreu mwy o amrywiaeth cynefinoedd.  
     
  49. Coed Cefn, Powys    
     
  SO226185 Coed Cadw 11.18 ha (27.63 erw)  
     
  Lleolir Coed Cefn ar fryn isel sy’n edrych dros Grughywel a leolir 1 milltir i’r dwyrain. Mae’r rhan fwyaf o ganopi’r goedlan yn cynnwys blociau o goed deri, ffawydd, a sbriws Norwy a blannwyd ym 1958 ac mae ynn a heuwyd ar ochrau deheuol y goedwig, ac yng nghynffon orllewinol y goedwig gwelir coed deri a sycamorwydden lled-naturiol gyda ffynidwydd cawraidd wedi eu plannu oddi tanynt mewn mannau.  
     
  50. Abertreweren, Powys  
     
  SN920260 Coed Cadw 7.46 ha (18.43 erw)  
     
  Lleolir y safle ar lethr serth sy’n wynebu’r gorllewin sy’n edrych dros ddyffryn dwfn eang o borfa y mae’r rhan fwyaf ohoni wedi ei gwella, gyda’r A4067 yn rhedeg drwyddo. Cliriwyd adran ogleddol y safle hon o goedlan hynafol tua 1981 a chafodd ei ail-stocio yn rhannol gyda choed llydanddail brodorol ac aildyfiant naturiol, a’i plannu’n rhannol gyda llarwydd hybrid. Mae’r hanner deheuol yn dal i fodoli fel coedlan led-naturiol hynafol aeddfed, sy’n cynnwys deri digoes, bedwen gyffredin a chriafol yn bennaf, gyda ynn a gwern ar darddlinau ac is-haen o goed cyll a drain yn wasgaredig yma ac acw.  
     
  51.  Coed Glyn Gwennws, Powys  
     
  SN842137 Coed Cadw 3.01 ha (7.44 erw)  
     
  Mae Coed Glyn Gwennws yn rhannau uchaf dalgylch Afon Tawe o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Nodweddion allweddol y safle yw porfa coedwig, coedlan gymunedol frodorol newydd a mynediad cyhoeddus. Mae tor creigiog gyda rhedyn, prysg a glaswelltir asidig yma ac acw yn goruchafu’r warchodfa gyda’r llethrau yn ymestyn at ffiniau’r safle. Plannwyd rhan uchaf y tor gyda choed llydanddail cymysg yn 2000 fel coedwig mileniwm gymunedol leol fel rhan o Gynllun Coedwigoedd ar Garreg Eich Drws yr Ymddiriedolaeth Coedlannau.  
     
 

(Brig)

 
     
  52. Battle Hill  
     
  SO 010345 Coed Cadw  
     
  Cymerwch y ffordd sydd heb ei dosbarthu i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu, gan fynd drwy bentrefi Caradog a Battle. Wrth y maes parcio ceir darpariaethau ar gyfer merlota, cerdded, bwyta barbeciw a chael picnig.  
     
  53. Taf Fechan Forestry Commission  
     
 

Coedwig tir uchel helaeth ar lethrau deheuol Bannau Brycheiniog ym mherfeddion y Parc Cenedlaethol. Mae Tâf Fechan yn fan prydferth o gwmpas y cronfeydd dwr ac er yn boblogaidd mae'n hawdd dod o hyd i fannau picnig a gorffwysfannau cudd. Mynediad trwy

Llwyn y Dylluan SO 051 169

 
     
  54. Hamdden - Coed Y Rhaeadr  
     
 

SN912079 Comisiwn Coedwigaeth – Coedwigoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ardal o goetir llydanddail trawiadol iawn ar lannau Nedd Fechan ac Afon Pyrddin.

Mynediad trwy:

- Gwaun Hepste SN 936126
-
Pont Melin-fach SN 908105
-
Dinas Rock SN912079

 
     
  55. Hamdden - Glasfynydd  
     
  SN 821272 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Yn gorwedd ym mharthau uchaf Afon Wysg mae Coedwig Glasfynydd yn darparu cyfleoedd ardderchog i gerdded a beicio o amgylch cronfa Wysg.  
     
 

(Brig)

 
     
  56. Coed Taf Fawr  
     
  SO 003 132 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Hwyl i’r teulu i gyd yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant. Yn ogystal â bod yn borth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dyma’r ganolfan ar gyfer coedlannau Coed Taf Fawr. Mae cwrs rhaffau ffantastig i’r mentrus yma yn ogystal â llwybrau cerdded drwy’r goedlan a llwybr seiclo i’r teulu. Mae yma le newydd i blant bach chwarae.  
     
  57. Hamdden - Cwm Giedd  
     
  SN792128 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Er yn goedwig weddol fach, mae yna nifer o ffyrdd mewnol a llwybrau sydd yn addas ar gyfer teithiau cerdded llinol hynod o hardd ac ar hyd y Mynydd Du. Mae yna gynlluniau i ddatblygu taith gerdded gylchol i fyny afon Giedd gan ddychwelyd ar hyd Nant Ceiliog.  
     
  58. Comisiwn Coedwigaeth - Blaen Llia  
     
  SN 927175, Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Maes Parcio cysgodol mewn ardal gudd o'r Parc Cenedlaethol. Safle picnig ar lan y nant  
     
  59. Mynydd Du  
     
  SO 268252, Comisiwn Coedwigaeth – Coedwig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  
     
  Mae Fforest y Mynydd Du yn rhannau uchaf Grwyne Fawr ar ochr ddeheuol y Mynydd Du. Tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y dyffryn wedi ei aneddu’n ddwys gyda dros 30 o ffermydd wedi eu hamgylchynu gan gaeau bychain a waliau cerrig o’u cwmpas.  
     
 
 
     
  Mewn partneriaeth gyda:  
     
  Coedwigoedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  
     
  Brecknock Wild Life Trust  
     
  Coed Cadw  
     
 

(Brig)

 
     
     
     

 

Coed Lleol is hosted by the Small Woods Association in partnership with the Forestry Commission Wales and the Countryside Council for Wales

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Web design by Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net