| |
 |
Mae Cymdeithas
y Coedwigoedd Bychain (CCB) yn elusen gofrestredig
gyda’r nod o annog gofal a mwynhad o goedlannau bychain.
Sefydlwyd y mudiad
yn wreiddiol yn 1988 ac mae ganddo aelodaeth
eang o berchnogion coedlannau (gan gynnwys perchnogion
coedwigoedd bychain unigol, ymddiriedolaethau
bywyd gwyllt, awdurdodau lleol, ystadau mwy,
mentrau coedlannau a grwpiau coedlannau cymunedol),
ymarferwyr, megis gweithwyr golosg, tocio a choed
gwyrdd, a’r sawl sydd â diddordeb cyffredinol
mewn coedlannau. |
|
|
| |
|
|
|
|
|
Sut y diffinnir
coedwig fechan? Nid ar sail maint bellach ond ar
yr agwedd meddwl a’i ddull rheoli.
Yn gyffredinol
mae gan aelodau CCB ddiddordeb mewn rheoli coedlannau
ar gyfer amryfal amcanion gan gynnwys bywyd gwyllt,
hamdden, crefftau tocio a choed gwyrdd, mwynhad
tawel yn ogystal â chynhyrchu coed lle bo hyn yn
ymarferol. Mae ystod ein perchennog aelodau yn
ymestyn o ychydig goed yn yr ardd gefn i fudiadau
gyda hectarau lawer.
Er mwyn
cyrraedd ein nod mae’r CCB wedi sefydlu’r amcanion
canlynol:
-
I
ddod â phawb sydd â diddordeb mewn coedwigoedd
bychain ynghyd drwy, er enghraifft, drefnu
cyrsiau a chynadleddau fydd yn caniatáu rhwydweithio
a rhannu arfer gorau mewn rheoli coedlannau.
-
I
hysbysu ac ysgogi y rhai sydd yn berchen ar
neu yn rheoli coedwigoedd bychain ac i annog
mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gyhoeddus
o fanteision niferus coedlannau. Mae ein cylchgrawn
chwarterol Smallwoods yn llawn o erthyglau
ar y datblygiadau, technegau a pholisïau diweddaraf
parthed coedlannau bychain. Mae ein Llinell
Wybodaeth yn helpu i ateb yr holl ymholiadau
ynglyˆn â choedwigoedd bychain ac mae ein taflen
cyrsiau yn rhestru cannoedd o gyrsiau sydd
ar gael ledled y DU gan CCB a phartner fudiadau
eraill. Mae ein gwefan yn www.smallwoods.org.uk yn
llawn o wybodaeth hawdd cael ato a chyhoeddiadau
y gellir eu llwytho i lawr.
-
I
reoli ymgyrch Coed Lleol (gweler www.coedlleol.org.uk)
gyda’r nod o ‘adfer cysylltiadau rhwng pobl
a choedlannau’.
-
I
barhau gyda mewnbwn cryf i bolisi’r DU a rhanbarthol
er mwyn sicrhau bod materion ynglyˆn â choedlannau
bychain yn cael eu hymchwilio a’u cofnodi yn
iawn gan ei drosi i bolisi a gweithrediad.
-
I
helpu i gadw gwybodaeth am ein treftadaeth
coedlannau bychain.
-
I
weithredu fel ymbarél ar gyfer mentrau coedlannau
– gweler
ein gwefan am fwy o fanylion.
-
I
weithio gydag ystod eang o bartner fudiadau
er mwyn cyrraedd ein hamcanion.
|
|
|
| |
(Brig) |
|
| |
|
|
| |
Mae
gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain is–gwmni y mae’n berchennog
llawn ohono, Heartwoods Ltd, cwmni cyfyngedig drwy
warant, wedi ei leoli yng Ngorllewin y Canolbarth gyda’r
nod “I hyrwyddo rheolaeth a chynhyrchiad cynaladwy
o adnoddau coedlannau Gorllewin y Canolbarth ac i ddatblygu
eu defnydd mewn diwydiannau cynhyrchu ac eraill yn y rhanbarth”.
CCB sydd hefyd yn rheoli Coed
Lleol, prosiect newydd cyffrous i ‘adfer
y cysylltiadau rhwng pobl a choedlannau ledled Cymru’,
gyda’i lythyr newyddion ei hunan ‘Coed a Dail’ a
chyfres o ddigwyddiadau, yn ogystal â chynlluniau
ar gyfer Gwˆyl Coedlannau Cymru.
CCB sydd hefyd yn rheoli’r Herefordshire
Sustain Project, prosiect gyda’r nod o 'rhoddi
coedlannau, pobl a busnes wrth galon prosiect partneriaeth
gynaliadaeth gweithiol all ddod yn fodel y gellir
ei gopïo ar gyfer cynaliadaeth yn y DU’.
Mae CCB hefyd yn gweithio’n
glòs gyda’r Green Wood Centre (www.greenwoodcentre.org.uk)
) i ddatblygu peirianwaith cefnogi newydd ar gyfer
y sector tocio a coed gwyrdd, ac annog mwy o brosiectau
‘ar y llawr’ mewn coedwigaeth gymdeithasol, adeiladu
gallu cymunedol, cynhwysiad cymdeithasol a choedwigaeth
gymunedol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Phrif
Swyddfa CCB yn:
|
|
|
|
|
|
|