|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
Adran 4 Darparwyr gwasanaeth / trydydd parti
Mae’n rhaid nodi unrhyw un sy’n darparu gwasanaeth yn ystod y gweithgaredd hwn (gallai hwn fod yn lleoliad lle mae digwyddiad/gweithgaredd yn cael ei gynnal neu rywun sy’n rhedeg gweithdy) a dilyn y pum cam isod:
-
Gwiriwch fod ganddynt yswiriant – a oes ganddynt yr yswiriant atebolrwydd cyflogwyr/ cyhoeddus angenrheidiol.
-
Gwyliwch am hyfedredd – a oes ganddynt yr hyfforddiant a’r profiad i’w galluogi i ymgymryd â’r tasgau hyn yn ddiogel?
-
Gwiriwch y gallant wneud y gwaith yn ddiogel – pwy sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch, a ydynt wedi cynllunio ar gyfer agweddau diogelwch y swydd?
Gellir cyflawni camau 1 i 3 drwy anfon copi (a sicrhau y derbynnir ymateb digonol) o’r llythyr safonol (a atodir ar ddiwedd yr adran) i sicrhau Iechyd a Diogelwch darparwr gwasanaeth ar gyfer digwyddiad/gweithgaredd.
Pan fônt ar y safle:
-
Gwiriwch eu bod yn gwneud popeth yr oeddent wedi addo ei wneud. Gwiriwch ar hap fod gwaith yn cael ei wneud fel y bu iddynt nodi y byddai. Os nad yw hyn yn bod, gwnewch nodyn ffurfiol o hyn a thrafodwch hyn gyda nhw. Os bydd hyn yn digwydd ddwywaith gofynnwch iddynt adael y safle oherwydd bod Iechyd a Diogelwch yn y fantol.
-
Gwiriwch fod pawb wedi cael yr wybodaeth gywir – gofalwch fod pawb yn gwybod y gweithdrefnau brys a phwy sy’n gyfrifol am beth.
Mae’r dudalen ganlynol yn rhoi enghraifft o ffurflen Cytundeb ynghylch Cyfrifoldeb am Weithgaredd a ddefnyddir gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain.
Cymdeithas y Coedwigoedd Bychain: Cytundeb ynghylch Cyfrifoldeb am y Digwyddiad / Gweithgaredd
Dylai pob parti arwyddo i gadarnhau bod Cytundeb y Digwyddiad / Gweithgaredd wedi ei ddarllen a’i ddeall. Wrth arwyddo’r ddogfen hon maent yn cytuno i dderbyn y cyfrifoldebau o dan iechyd a diogelwch, cyllid a threfniadaeth, fel yr amlinellwyd yn y Cytundeb ynghylch y Digwyddiad / Gweithgaredd.
Enw’r Digwyddiad / Gweithgaredd: |
|
Dyddiad: |
|
|
|
Sefydliad |
Rolau (iechyd a diogelwch) |
Rolau (Trefniadaethol) |
Rolau (Ariannol) |
Unigolyn cyfrifol |
Llofnod |
Prif gorff: |
|
|
|
|
|
|
Sefydliad(au) partner: |
|
|
|
|
|
|
Tirfeddiannwr /rheolwr(wyr): |
|
|
|
|
|
|
Crefftwr (wyr) / tiwtor(iaid: |
|
|
|
|
|
|
Contractwr (wyr): |
|
|
|
|
|
|
Arall / Eraill: |
|
|
|
|
|
|
Arall / Eraill: |
|
|
|
|
|
|
Arall / Eraill: |
|
|
|
|
|
|
Arall / Eraill: |
|
|
|
|
|
|
Arall / Eraill: |
|
|
|
|
|
|
|