|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
Rhestr annog ar gyfer Asesiadau Risg
Amodau tywydd anffafriol
-
A yw’r digwyddiad/gweithgaredd yn dibynnu ar y tywydd?
-
Os felly, beth yw’r gweithdrefnau sy’n bodoli ar gyfer gohirio’r digwyddiad/gweithgaredd a hysbysu’r cyfranogwyr/y sawl sy’n mynychu?
-
A oes unrhyw strwythurau/arddangosfeydd/perfformiadau yn y digwyddiad / gweithgaredd, y gellid eu niweidio/heffeithio gan dywydd gwael?
-
A allai unrhyw strwythurau/arddangosfeydd syrthio yn y gwynt ac achosi difrod i bobl/gwrthrychau eraill?
-
A fyddai unrhyw weithgaredd yn y digwyddiad yn cael ei ystyried yn beryglus pe bai’r gwynt neu’r glaw yn uchel?
-
Os yw’r tywydd yn boeth iawn neu yn heulog, a oes digon o gysgod i bobl sy’n dod i’r digwyddiad/gweithgaredd ac a yw’r gwasanaethau brys wrth law i drin strôc/gwres yr haul?
Anawsterau ymddygiadol
-
A oes gan unrhyw rai o’r rhai y gwyddys sy’n mynychu neu’r cyfranogwyr hanes o anawsterau ymddygiadol ac os felly, a yw’r staff (taledig a gwirfoddol) wedi eu hyfforddi i ymdrin â hyn?
-
A oes gan staff (taledig a gwirfoddol) a phobl ifanc hyfforddiant a gwybodaeth ddigonol i ymdrin ag un sy’n mynychu/cyfranogwr anodd ei drin neu flin?
-
A yw staff (taledig a gwirfoddol) a phobl ifanc yn gwybod pwy i gysylltu â nhw mewn achos o ymosodiad neu ymddygiad ymosodol gan un sy’n mynychu/cyfranogwr?
Cemegau
-
A ddefnyddir cemegau mewn unrhyw ffurf yn ystod y digwyddiad/ gweithgaredd?
-
I beth a pham?
-
A oes eu hangen mewn gwirionedd?
-
Os felly pwy fydd yn eu trin, a oes ganddynt hyfforddiant digonol?
-
Ble byddant yn cael eu cadw a sut y byddant yn cael eu cadw oddi wrth y cyhoedd?
- A oes gan y sawl sy’n eu trin hyfforddiant digonol i wneud hynny?
Rheoli’r Cyfryngau
-
A yw hwn yn weithgaredd y bydd gan y cyfryngau ddiddordeb mewn ymdrin ag ef?
-
Pwy fydd yn cyfarfod y cyfryngau?
-
A oes digon o le i’r cyfryngau?
-
A oes gennych ddatganiad i’r wasg yn barod i’r cyfryngau?
-
Sut y gallwch sicrhau y bydd eich gweithgaredd yn rhoi delwedd gadarnhaol i’ch prosiect?
Dŵr Dwfn
-
A yw’r gweithgaredd yn agos at ddŵr dwfn e.e. pwll nofio, afon, llyn ac ati?
-
A yw’r dŵr wedi ei gau i ffwrdd yn ddiogel fel nad oes mynediad i’r cyhoedd ato?
-
A yw’r holl staff (taledig a gwirfoddol) a chyfranogwyr/rhai sy’n mynychu yn ymwybodol o berygl dŵr dwfn?
Bwyd
-
A oes dŵr yfed ar y safle? A ydych chi yn darparu dŵr yfed neu a yw’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn gyfrifol am ddod â’u dŵr eu hunain?
-
A ydych yn darparu bwyd yn y gweithgaredd?
-
A oes lle storio addas ar gael?
Meddyginiaeth
-
A yw unrhyw un sy’n ymwneud â’r gweithgaredd hwn yn debygol o fod angen meddyginiaeth reolaidd?
-
A yw hyn yn berygl i eraill?
-
A oes angen darparu ardal storio; a oes angen iddi fod yn ddiogel?
Anhwylder
-
A yw hwn yn fath o weithgaredd lle gallai anhwylder ddigwydd?
-
A oes cymhareb briodol o ddiogeledd staff (taledig a gwirfoddol) i gyfranogwyr/rhai sy’n mynychu i atal unrhyw anhwylder rhag digwydd?
-
A oes cynllun argyfwng yn ei le rhag ofn y bydd anhrefn yn digwydd?
Offer trydanol
-
A ddefnyddir offer trydanol mewn unrhyw ffurf yn ystod y gweithgaredd?
-
I beth a pham?
-
A oes ei angen mewn gwirionedd?
-
Pwy yw’r contractwyr sy’n darparu’r offer ac a roddwyd tystiolaeth iddynt ei fod yn ddiogel?
-
A yw’r offer yn gydnaws â’r ffynhonnell pŵer a ddarperir gan y ganolfan?
-
A yw’r offer yn addas ar gyfer ei ddefnyddio yn yr awyr agored?
-
Pa fesurau fydd yn bodoli i sicrhau na ellir amharu ar yr offer gan unrhyw un heb ei awdurdodi i’w drin?
-
A yw’r sawl sy’n trin yr offer wedi cael hyfforddiant digonol i wneud hynny?
- A yw’r sawl sy’n trin yr offer wedi cael hyfforddiant digonol i wneud hynny?
Strwythurau dros dro
-
A fydd y gweithgaredd yn gwneud defnydd o strwythur dros dro e.e. pabell fawr, pabell ac ati?
-
Os felly, pwy sy’n darparu’r strwythur dros dro hwn?
-
Ble byddant yn codi’r strwythur dros dro ac a oes gennych gopi o’u gwybodaeth iechyd a diogelwch i sicrhau bod eu staff wedi eu hyfforddi i wneud hyn yn ddiogel? A yw’r tir lle gosodir y strwythur dros dro yn addas e.e. nid yn gorstir yn dioddef o lifogydd, yn fryniog neu yn ansefydlog mewn unrhyw ffordd?
-
A oes unrhyw geblau uwchben y ddaear a all fod yn risg diogelwch i strwythur dros dro?
-
A yw’r strwythur dros dro yn beryglus o ran posibiliadau o lithro, baglu e.e. gwifrau ar y llawr, carped nad yw wedi ei osod yn syth ac ati?
-
Ydych chi’n ymwybodol o beth y gellir/ na ellir ei roi yn y strwythur dros dro yn ddiogel e.e. os yw’n ginio a ganiateir canhwyllau? A ellir coginio ynddo’n ddiogel?
-
A yw’r strwythur dros dro yn gallu gwrthsefyll y tywydd? Sut dymereddau fyddai ynddo pe bai’n wirioneddol boeth neu oer?
-
A ddefnyddir gwresogyddion y tu mewn i’r strwythur dros dro? Sut y byddent wedi eu cysylltu’n drydanol â ffynhonnell pŵer?
-
A ydych wedi ystyried popeth sy’n cynhyrchu fflamau noeth (ysmygu, coginio, gwresogi ac ati)?
-
Os yw’r strwythur wedi ei amgáu a fydd darpariaeth ddigonol o ran allanfa dân?
Gwrthrychau’n cwympo
-
Yn ystod y digwyddiad/gweithgaredd, a oes perygl y bydd gwrthrychau yn syrthio ar rywun?
-
A oes gwrthrychau y gellid eu symud gan amodau tywydd anffafriol ac achosi perygl i ddiogelwch?
-
A yw’r holl wrthrychau sydd wedi eu gosod mewn lle uchel yn ddiogel?
-
Os yw gwrthrych yn cwympo, a oes cymorth cyntaf digonol gerllaw i ymdrin â’r canlyniad?
Cwympiadau o uchder
-
A oes unrhyw le yn y lleoliad lle gall cyfranogwyr/rhai sy’n mynychu fod mewn perygl o syrthio o uchder?
-
A oes unrhyw dyllau, tyllau draenio, silffoedd, clogwyni y gall pobl syrthio ohonynt?
-
A all y perygl gael ei ddileu o’r gweithgaredd?
-
Os na all, a yw’r perygl wedi ei nodi’n glir ac arwyddion rhybudd addas wedi eu codi?
-
A all y perygl gael ei neilltuo trwy roi rhaff o’i amgylch?
Trin nwyddau â llaw
-
Ceisiwch gwtogi cymaint â phosibl ar faint o godi neu gario sy’n rhaid ei wneud.
-
Lle bo’n angenrheidiol gwneud hynny gofalwch fod llwythi trwm neu afrosgo yn mynd i gael eu symud gan staff wedi eu hyfforddi o’r cwmnïau sy’n eu darparu.
-
Gofalwch fod y bobl y gofynnir iddynt godi’r llwythi yn addas e.e. gofalwch NAD ydynt yn ferched beichiog, yn unrhyw un gyda hanes o broblem cefn ac ati.
Cymorth cyntaf meddygol
1. A oes cymorth cyntaf addas wedi ei gynllunio ar gyfer y gweithgaredd?
2. A oes rhai wedi eu hyfforddi i estyn cymorth cyntaf ar y safle?
3. A oes gennych y gymhareb gywir o bobl i estyn cymorth cyntaf i’r niferoedd sy’n mynychu’r gweithgaredd?
4. A oes ambiwlans yn bresennol?
5. A yw’r holl rai sy’n estyn cymorth cyntaf yn ymwybodol o ble y cedwir y ddarpariaeth cymorth cyntaf?
6. A yw’r holl gitiau cymorth cyntaf wedi eu stocio ac yn ddigonol ar gyfer y gweithgaredd?
7. Pwy sy’n gyfrifol yn y digwyddiad/gweithgaredd am gofnodi damweiniau / digwyddiadau?
8. A oes cyswllt cyfathrebu wedi ei gytuno rhwng y Darparwyr Cymorth Cyntaf a staff pe bai damwain yn digwydd?
9. Ble mae’r ysbyty agosaf a beth yw’r rhif?
10. Beth yw’r union leoliad i’w roi i’r gwasanaethau brys pe baent yn cael eu galw allan?
11. Pwy yw’r meddyg lleol ar alwad a beth yw ei rif ef neu hi?
Sŵn
1. Pa mor swnllyd fydd y gweithgaredd?
2. A oes unrhyw gyfathrebu ynglŷn â’r sŵn wedi ei ystyried – pensetiau gyda ‘walkie-talkies’ er enghraifft?
3. A rybuddiwyd pobl yn y gymdogaeth?
Achosion o lithro/ baglu/ cwympo
1. Cynlluniwch y digwyddiad/gweithgaredd fel bod y llawr yn wastad lle bynnag y bo hynny’n bosibl heb unrhyw beryglon o faglu.
2. Os oes yma risiau neu stepiau neu fod y peryglon eraill o faglu yn parhau gofalwch eu bod wedi eu marcio’n ddigonol.
3. Os yw’r digwyddiad/gweithgaredd yn agos at ddŵr neu y gallai pobl wlychu eu traed yn y digwyddiad/gweithgaredd lle mae’r tywydd wedi bod yn ddrwg a yw’r arwyneb yn un gwrthlithro pan fo’n wlyb?
4. Gofalwch fod rhywun ar y safle i fwrw golwg ar yr ardal am beryglon baglu cyn y gweithgaredd.
Lle
1. Os yw’r gweithgaredd yn digwydd mewn lleoliad arbennig, ydych chi’n gwybod faint o bobl a all lenwi’r lle yn ddiogel?
2. A ydych wedi gwneud darpariaeth i reoli nifer y bobl sydd â mynediad.
Diogelwch tân
1. A ydych yn dilyn gweithdrefnau safonol y lleoliad, ac os ydych a roddwyd gwybodaeth i’r holl bobl allweddol?
2. A yw’r gweithdrefnau gwacáu/tân yn eu lle ac yn eglur ac yn hawdd eu dilyn?
3. A yw’r allanfeydd wedi eu nodi’n glir (hyd yn oed os yw’r golau’n diflannu).
4. A oes offer addas i ddarganfod tân ar y safle (i ddarganfod mwg ac ati) ar gyfer y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio – os yw’r lleoliad yn cael ei reoli gofynnwch iddynt am yr wybodaeth hon.
5. A oes darpariaeth addas o ran offer diffodd tân (diffoddyddion tân ac ati) ar gyfer y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio – os yw’r lleoliad yn cael ei reoli gofynnwch iddynt am yr wybodaeth hon.
Materion ynglŷn â’r safle
1. A oes lle i dderbyn pobl sydd AR GOLL y gall pobl sydd wedi eu gwahanu fynd iddo?
2. A oes system uchelseinydd da yn ei lle i hysbysu pobl am ffrindiau / teulu sydd ar goll?
3. Ble gall pobl eistedd i lawr?
4. A oes man gwybodaeth?
5. A oes cyfleusterau toiled digonol?
6. A yw’n eglur lle mae’r lleoliad cymorth cyntaf?
Lladrad
1. Os bydd arian yn cael ei gasglu, sut y gwneir hyn yn ddiogel e.e. mewn parau?
2. Sut y bydd yr arian yn cael ei drin a’i gyfrif?
3. Ble bydd yr arian yn cael ei storio yn ddiogel?
4. Pa yswiriant sydd gennych i roi gwarchodaeth i’r digwyddiad/gweithgaredd hwn?
Teithio
1. A yw’r staff a’r cyfranogwyr /y rhai sy’n bresennol i gyd yn ymwybodol o ble y mae angen iddynt gyrraedd i deithio i ac o’r lleoliad dan sylw, a pha bryd?
2. A oes cynllun gweithredu os nad yw rhywun yn ymddangos mewn pryd i deithio?
3. A fyddai digon o staff i fynd â’r grŵp sydd ar ôl yn ei flaen?
Cerbydau
1. Os yw staff yn defnyddio eu cerbydau eu hunain ar gyfer gwaith mae angen iddynt sicrhau bod eu hyswiriant yn rhoi gwarchodaeth ar gyfer hyn.
|