<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>

3) Canolfan Adnoddau Hafan Hedd, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion


Amcanion Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Dyffryn De Teifi yw dod â phobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn ôl i’r gymuned a gwaith. Gobeithiant wneud hyn drwy ddarparu gweithgareddau ystyrlon ar eu cyfer a fydd yn datblygu eu sgiliau cymdeithasol a’u teimladau o hunanwerth. Mae’r tîm yn weithwyr a gyflogir gan y GIG ac mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn talu am hurio prydles cerbyd ar gyfer y prosiect. Cyfeirir Defnyddwyr Gwasanaeth at y prosiect gan Feddygon Teulu ar ôl iddynt gael eu hasesu gan y Nyrs Seiciatrig Gymunedol. Mae’r tîm hefyd yn gobeithio derbyn atgyfeiriadau oddi wrth y Gwasanaeth Swyddi, Addysg a Hyfforddiant (JETS) yn ogystal â chreu partneriaethau gyda grwpiau Iechyd Meddwl lleol eraill a chanolfannau galw i mewn.


Ym mis Hydref 2005 cydweithiodd Datblygwr Prosiect y Tîm a Swyddog Gofal Arfordir Ceredigion Cadwch Gymru’n Daclus i gychwyn ar Brosiect Gofal Arfordir Hafan Hedd. Mae’r tîm yn cyfarfod yn wythnosol i gasglu sbwriel a gwneud gwaith cynnal ar draethau rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn cael pleser o allu helpu’r gymuned a’r amgylchedd. Maent hefyd yn gwerthfawrogi’r ganmoliaeth a dderbynnir oddi wrth bobl leol a phobl ar eu gwyliau. Oherwydd llwyddiant y prosiect hwn, mae’r tîm wedi datblygu perthynas waith gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gobeithio ymgymryd â phrosiect Adfer Twyni Tywod.


Yn 2006 derbyniodd Datblygwr y Prosiect hyfforddiant mewn gweithgareddau’r goedlan o dan y prosiect Coedwigoedd ar gyfer Lles sy’n cael ei redeg gan Tir Coed. Mae’r Defnyddwyr Gwasanaeth bellach wedi ymweld â choedwig sydd mewn dwylo preifat lle cynhaliwyd y chwe sesiwn hyfforddi gyntaf a lle mae gweithgareddau wythnosol yn cael eu cynnal, yn amrywio o waith coed gwyrdd i reoli’r goedlan. Mae perchnogion y goedlan wedi dyrannu adran o’r goedwig i’r Tîm lle maent yn clirio ardal ac yn ei hailblannu gyda helyg ar gyfer gwaith crefft yn ogystal â sefydlu llwybr, creu pwll a dylunio a phlannu drysfa helyg.


Uchafswm nifer y Defnyddwyr Gwasanaeth ar gyfer pob ymweliad â’r goedlan yw chwech, o dan ddyletswydd o ofal Datblygwr y Prosiect. Gallai’r niferoedd hyn gynyddu i naw pe bai gwirfoddolwr addas yn cael ei recriwtio.


Mae’r diwrnod yn dechrau gyda the a gwerthusiad o aelodau’r tîm i weld sut hwyliau sydd arnynt a’u lefelau canolbwyntio fel y gellir dyrannu unigolion i weithgareddau addas. Mae lles emosiynol yn ogystal â chorfforol yn cael ei asesu yn ystod y cyfnod hwn. Mae Datblygwr y Prosiect yn ymwybodol o feddyginiaeth y Defnyddiwr Gwasanaeth unigol a’r sgîl effeithiau posibl. Mae cit cymorth cyntaf wrth law bob amser, ynghyd â hylif haul. Gwneir asesiadau Iechyd a Diogelwch ac ymdrinnir â gweithgareddau’r prosiect o dan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth.


Dewisir arweinydd tîm i fod yn gyfrifol am yr aelodau eraill yn ogystal â’r tŵls. Bydd y grŵp hwn yn ymgymryd â gweithgareddau risg isel, lle bo gweithgareddau gyda risg uwch yn cael eu harolygu gan Ddatblygwr y Prosiect mewn grŵp llai o dri o Ddefnyddwyr Gwasanaeth.


Nid oes unrhyw un wedi rhoi’r gorau i brosiect Gweithgareddau’r Goedlan ac mae’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn gwerthfawrogi’r profiad yn arbennig. Mae’r coedwigoedd yn darparu amgylchedd nad yw’n awdurdodol, y mae’r manteision yn fwy na rhai Prosiect Gofal yr Arfordir yn nhermau datblygiad emosiynol sydd er ei fod wedi bod yn llwyddiannus, wedi golygu bod dau wedi rhoi’r gorau iddo o gyfanswm o 14 o gyfranogwyr. Mae’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn datblygu mwy o hunan-barch, ymwybyddiaeth a chyfathrebu o fod mewn amgylchedd newydd wrth ddatblygu sgiliau ymarferol a chymdeithasol. Noda Datblygwr y Prosiect fod y coedwigoedd yn rhoi “amser i fyfyrio, bod yn gadarnhaol a derbyn bod ganddynt broblem, ymdrin â hi a symud ymlaen” i’r unigolion.

 

 

   
   

 

 
 

 
 

 
     

 Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net