|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
C 2) Cynlluniau Ymarfer Cymunedau Ceredigion – Troeon Drwy’r Coedlannau
Yn 2002 sefydlwyd Cynllun Troeon Drwy’r Coedlannau rhwng y Nyrsys Adferiad Cardiag a Rheolwr Addysg ac Iechyd y Goedwig. Aethpwyd â chleientiaid oedd wedi profi cyflyrau gyda’u calon ar deithiau tywys i goedwigoedd lleol.
Yn 2004 llwyddodd Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion a Chanolbarth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion i dderbyn arian Loteri ar gyfer cynllun ymarfer yn y sir ar gyfer y rhai hynny gyda chyflwr y galon a rhai oedd mewn perygl o ddioddef o glefyd y galon, y rhai hynny oedd yn dioddef o bryder, iselder, gordewdra neu rai oedd yn profi ynysiad cymdeithasol ac ati.
Mae’r cynlluniau yn darparu dosbarthiadau ymarfer ddwywaith yr wythnos am ddeuddeg wythnos ynghyd â sgyrsiau am iechyd. Roedd y cynllun hwn yn ei gwneud yn bosibl i ddatblygu cysylltiadau rhwng y Cyngor, Ymddiriedolaeth y GIG a’r Comisiwn Coedwigaeth. Cyflwynwyd staff y cynllun i droeon pellach drwy goedlannau yn y sir gan geidwaid y Comisiwn Coedwigaeth a dewiswyd amrywiaeth o deithiau cerdded.
Gwnaed asesiad risg ar gyfer pob taith a threfnwyd yswiriant gan yr Ymddiriedolaeth ar eu cyfer. Dewiswyd y teithiau i fod yn rhai gyda dechrau a diwedd heb fod yn anodd i gynhesu ac oeri’r corff. Rhoddwyd disgrifiad o’r teithiau i’r cleientiaid gan gynnwys pellterau, yr amodau dan draed a’r llethrau ac fe’u cynghorwyd am ddillad addas cyn dechrau teithiau cerdded.
Cysylltiadau gyda chynlluniau eraill
Hyfforddwyd tri o arweinwyr teithiau drwy’r cynllun Cerdded Llwybr Iechyd ac aethant ar bob taith gyda radios dwy ffordd a ffonau symudol.
Sicrhawyd cyswllt gyda Chynllun Cludiant Cymunedol y Cyngor sy’n darparu bws mini am ddim a hyfforddiant i yrrwr i grwpiau cymunedol. Roedd hyn yn hanfodol i fynd at rai o’r teithiau. Mae teithiau drwy’r coedlannau yn digwydd o leiaf bob mis o’r gwanwyn i’r hydref.
Cwtogir ar rwystrau drwy:
Ddarparu teithiau yn lleol
Dewis troeon i fod yn addas i alluoedd y cyfranogwyr
Diogelwch – oherwydd cerdded mewn grŵp
Darperir cludiant a gofal plant.
Manteision:
Dewis arall yn hytrach na defnyddio canolfannau hamdden am weithgaredd corfforol
Wedi cyflwyno cleientiaid i leoedd newydd
Gall cleientiaid fynd ar y troeon eto gyda ffrindiau a theulu
Amgylchedd ymlaciol i sicrhau bod pobl yn cymysgu mwy â’i gilydd yn gymdeithasol
Gwell gwerthfawrogiad o’r amgylchedd lleol
Gwybodaeth gynyddol o sgyrsiau a ddarperir gan arbenigwyr ynghylch y goedlan
Mwy o hyder a synnwyr o les emosiynol
Gweithio’n well mewn partneriaeth
Nododd un Defnyddiwr Gwasanaeth, “Mae’n wych yma, alla’ i ddim aros i ddod â’r plant.” Meddai Gwenllian Parry, Nyrs Adferiad Cardiag, “Mae’r cynllun wedi llwyddo oherwydd y gydnabyddiaeth fod angen i Ddefnyddwyr Gwasanaeth gymdeithasu a datblygu diddordebau a fydd yn eu hannog i gynnal gweithgaredd corfforol ar sail reolaidd.”
Cysylltiadau:
Gwenllian Parry/Denise Lewis Nyrsys Adferiad Cardiag 01970 635327
Sue Ginley, Rheolwr Addysg ac Iechyd, Comisiwn Coedwigaeth 01970 881924
Mandy Jones, Arweinydd Ymarfer ar gyfer Bywyd 0781 3315238
|