<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>

C 1) Adnodd Ardal Llanfyllin – MENCAP

Mae Adnodd Ardal Llanfyllin yn brosiect Mencap sy’n cynnig cyfle ar hyn o bryd i bobl gydag anableddau dysgu ddysgu sgiliau mewn gwaith cadwraeth, rheoli coedlannau a chrefftau gwaith coed gwyrdd i wella’r modd y maent yn cymysgu yn gymdeithasol ac yn darparu gweithgareddau ystyrlon.


Ym 1998 daeth grŵp o rieni lleol i blant gydag anawsterau dysgu at ei gilydd ac ymgyrchu dros ddarparu cyfleoedd i’w meibion a’u merched yn ac o amgylch Llanfyllin. Dros y tair blynedd ganlynol llwyddwyd i sicrhau cyllid gan y Swyddfa Gymreig i sefydlu lleoliad i gydlynu gwasanaethau dydd ohono ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Mae’r gwasanaeth hwn yn bartneriaeth rhwng Mencap Cymru, Grŵp Cymorth Mencap Llanfyllin a Chyngor Sir Powys sydd bellach yn brif gyllidwr iddo.


Sefydlwyd y prosiect gweithgareddau’r goedlan ym 1992 ac roedd yn cael ei adnabod fel ‘Trackside Charcoal’. Penodwyd hyfforddwr a chynigiwyd hyfforddiant yn Rhwydwaith y Coleg Agored. Dechreuwyd drwy brysgoedio coed o drac rheilffordd ysgafn y Trallwng i Lanfair a chynhyrchu golosg o’r coed oedd yn deillio o hyn. Cynyddodd y buddiolwyr o dri i saith o Ddefnyddwyr Gwasanaeth. Wrth i’r prosiect ddatblygu ymgeisiodd Mencap Cymru yn llwyddiannus i’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF). Pan arallgyfeiriwyd o ran y gweithgareddau a’r lleoliadau daethpwyd i’w adnabod fel Prosiect Rheoli Coedlannau Gogledd Powys, a fyddai maes o law yn cynnig lleoedd i 14 o bobl. Neilltuwyd rhywfaint o’r arian ESF tuag at brynu offer ar gyfer siop gwaith coed ar Stâd Ddiwydiannol Llanfyllin lle mae eitemau a chrefftau o waith coed gwyrdd fel stolion, cadeiriau a hyrdlenni yn cael eu gwneud gan ddefnyddio dulliau ac offer traddodiadol.


Hyd yma mae’r prosiect wedi sefydlu cytundebau helaeth gyda Stâd Castell Powys, coedlan breifat leol, y Comisiwn Coedwigaeth a’r RSPB ger Llyn Efyrnwy lle maent wedi ymgymryd â gweithgareddau fel prysgoedio, cynhyrchu coed tân a gwaith arall i reoli’r goedlan a gwaith cadwraeth. Mae defnyddwyr gwasanaeth y prosiect hefyd yn gweithredu fel wardeniaid gwirfoddol gyda Chymdeithas Byd Natur Maldwyn ym Mhwll Severn Farm. Mae un aelod wedi gweithio fel gwirfoddolwr, un diwrnod yr wythnos am ddeng mlynedd gyda’r RSPB ger Llyn Efyrnwy.

Mae’r cynllun wedi derbyn cydnabyddiaeth sylweddol. Ym 1997, enwebodd y Prince’s Trust y prosiect fel un a dderbyniodd Wobr Canmoliaeth Uchel yn y rownd derfynol, gan ei grybwyll fel enghraifft o ddatblygiad cynaliadwy lleol yng Nghymru. Ym 1998 enillodd Prosiect Rheoli Coedlannau Gogledd Powys wobr Cefn Gwlad i Bawb BT ar gyfer Cymru. Cyflwynwyd plac i goffau’r achlysur yn Ionawr 1999 gan yr AS lleol ar gyfer Sir Drefaldwyn, Lembit Öpik.

Manteision Penodol

Mae llawer o’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig gwasgaredig. Mae eu rhieni sy’n ofalwyr iddynt yn heneiddio ac roedd angen iddynt ddod yn well am gymysgu’n gymdeithasol gan arwain at fwy o annibyniaeth. Mae gweithgareddau’r goedlan yn helpu’r buddiolwyr i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a syniad o falchder a chyflawniad drwy greu cynhyrchion y gellir eu gwerthu. Maent hefyd yn mwynhau’r gwaith corfforol o docio’r coed a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â rheoli’r goedlan. Maent yn mwynhau yn arbennig weithgareddau ailadroddus fel stacio coed tân. Nid oes unrhyw un yn rhoi’r gorau i’r prosiect ac mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn aml yn gwneud cais penodol i weithio yn y coedwigoedd yn hytrach na dewis gweithgareddau eraill a gynigir gan y Ganolfan Ddydd fel sgiliau cyfrifiaduron neu goginio.


Ystyriaethau Arbennig

Mae’r prosiect yn cadw at ofynion iechyd a diogelwch, yswiriant a darpariaeth cymorth cyntaf. Mae’r staff a’r Defnyddwyr Gwasanaeth i gyd yn gwisgo offer gwarchodol personol priodol ac maent yn cael y brechiadau angenrheidiol sy’n berthnasol i waith llaw yn yr awyr agored.

Ynghyd â’r ystyriaethau hyn, mae’r prosiect yn ymwybodol o anghenion penodol y Defnyddwyr Gwasanaeth. Yn aml maent yn methu mesur effeithiau y mae’r amgylchedd yn ei gael arnynt, gan roi eu hunain mewn perygl o ddioddef o strôc haul a hypothermia. Mewn rhai achosion gall y feddyginiaeth eu gwneud yn fwy tebygol o losgi yn yr haul hefyd. Wrth gynnal asesiadau risg, mae’n rhaid i arweinwyr tîm roi ystyriaethau arbennig i beryglon baglu y mae’r Defnyddwyr Gwasanaeth yn llai abl o’u hosgoi.


Maint Grwpiau

Cyfanswm nifer y Defnyddwyr Gwasanaeth yw 24 sy’n dod o ardaloedd mor bell i ffwrdd â’r Drenewydd. Maint uchaf grŵp gwaith yw 13 ond mae hyn yn dibynnu ar y Defnyddiwr Gwasanaeth unigol, oherwydd gall ar rai fod angen cefnogaeth un i un.


Hyd ac Amledd

Mae’r ganolfan ar agor bedwar diwrnod yr wythnos o 10.00am tan 3.00pm. Os nad oes cyfleusterau toiled yn safle’r goedlan, mae’n rhaid i waith gael ei gyfyngu i bedair awr. I oresgyn hyn, mae Cymdeithas Byd Natur Maldwyn yn codi arian i gael toiled compost. Yn Stad Castell Powys mae Mencap yn talu £60 y mis am Portaloo.


Ffactorau sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect

Yn sicr, un o’r prif ffactorau sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect yw ysbrydoliaeth ac egni Dan Grove a sefydlodd weithgareddau’r goedlan ac ymrwymiad y staff presennol. Er na luniwyd unrhyw gytundebau partneriaeth swyddogol, sicrhawyd defnydd o safleoedd mewn coedlannau drwy gysylltiadau personol a datblygu hyder gyda pherchnogion ac asiantaethau. Cyn gynted ag yr oedd y Defnyddwyr Gwasanaeth wedi profi eu gwerth fel gweithwyr coedlan, ymestynnwyd y caniatâd i ddefnyddio’r coedlannau. Byddai wedi bod yn haws i’r staff fod wedi canolbwyntio gweithgareddau yn y Ganolfan Ddydd neu’r gweithdy ond eto roedd y manteision a welsant yn cael eu medi gan y Defnyddwyr Gwasanaeth yn golygu bod yr ymdrech o’u cael i’r safle yn werth chweil. Mae’r ffaith nad oedd ganddynt gerbyd ar gyfer y prosiect i gludo Defnyddwyr Gwasanaeth i’r safle wedi bod yn broblem barhaus.

Oherwydd bod gan y Defnyddwyr Gwasanaeth ystod o anawsterau dysgu, mae wedi bod yn hanfodol fod y prosiect yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau yn amrywio o stacio bwndeli o goed bach i waith llaw trwm. Er mai un o amcanion y prosiect yw hyrwyddo gweithgaredd corfforol, natur greadigol a boddhaol y gwaith sydd wedi gyrru’r prosiect hwn yn ei flaen. Roedd cymysgu â phobl yn gymdeithasol yn un o brif amcanion y prosiect ac amser cinio yw un o rannau pwysicaf y dydd ar gyfer datblygu hyn.

Roedd darparu hyfforddiant i’r staff yn bwysig hefyd drwy gyrsiau plethu coed helyg, cyrsiau trin llif gadwyn a chymorth cyntaf. Ystyrid bod cefnogaeth gan grŵp tebyg o Grŵp Coedlannau Nanteos, sydd hefyd â sgiliau da o ran rheoli coedlannau a gweithio gyda choed gwyrdd yn ogystal â phrofiad o weithio gyda grwpiau sydd wedi eu hallgau yn gymdeithasol, yn bwysig iawn hefyd. Mae gallu gofalwyr profiadol i ddysgu ac addysgu sgiliau ymarferol wedi eu galluogi i gyflwyno manteision ychwanegol heb fod angen contractio arbenigwyr nad oes ganddynt efallai’r doniau cymdeithasol hyn.

 

   
   

 

 
 

 
 

 
     

 Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net