<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>

B. 8) MATERION CYFREITHIOL Canllawiau defnyddiol a fabwysiadwyd gan y Prince’s Trust a Chymdeithas y Coedwigoedd Bychain

Mae perchennog y goedlan a threfnwyr y gweithgaredd yn gyfrifol ar y cyd am weithrediadau a phethau nas cyflawnir gan eu cydweithwyr, Defnyddwyr Gwasanaeth a’r cyhoedd mewn perthynas â’u diogelwch a’u hiechyd eu hunain ac eraill.

i) Iechyd a Diogelwch

  • Mae Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a deddfwriaeth gysylltiedig yn rhoi cyfrifoldeb ar drefnydd y gweithgaredd i fesur peryglon posibl i gyfranogwyr, gweithwyr, gwirfoddolwyr, gwahoddedigion, y cyhoedd yn gyffredinol ac aelodau tîm mewn unrhyw weithgaredd yr ydych yn ei drefnu.

  • Rhaid i bob gweithgaredd gael ei wirio am beryglon a risgiau. Lle bo gweithgaredd yn cael ei drefnu gan Ddarparwr Gwasanaeth (neu gorff arall), rhaid iddynt roi tystiolaeth eu bod wedi cymryd mesurau priodol i ddiogelu’r hoff staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr/rhai sy’n mynychu ac wedi trefnu yswiriant digonol.

  • Rhaid i bob cyfranogwr, gwirfoddolwr a staff sy’n ymwneud â threfnu unrhyw weithgaredd gael eu briffio’n briodol ynglŷn â’r risgiau iechyd a diogelwch a pha gamau y gallant eu cymryd i’w nodi a’u cadw i isafswm.

 

ii)Yswiriant


  • Os ydych yn trefnu gweithgaredd rhaid i chi sicrhau bod gennych warchodaeth yswiriant digonol i ymdrin â’r gweithgaredd.

  • Os ydych yn trefnu gweithgaredd ar y cyd â Darparwr Gwasanaeth neu gorff arall, rhaid i chi ei gadarnhau yn ysgrifenedig a sicrhau bod gwarchodaeth yswiriant digonol ar gyfer y gweithgaredd a chyda pha gorff neu fudiad.


iii) Ffurflenni Gweithdrefnol Iechyd a Diogelwch


Drwy lenwi’r ffurflenni gweithdrefnol a atodir mewn pedair adran byddwch yn gallu bwrw golwg dros Iechyd a Diogelwch gweithgaredd y goedlan.

  • Lleoliad a manylion am y gweithgaredd.

Amlinellwch fanylion y gweithgaredd a ystyrir.

  • Rhestr annog

Cwblhewch y rhestr i nodi’r risgiau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch ynglŷn â’r gweithgaredd.

  • Asesiad risg.

Os yw eich corff neu fudiad yn cymryd cyfrifoldebau am elfennau ohono, bydd angen cwblhau asesiad risg.

  • Gweler hefyd HSE/Rheoli Risg: Pump Cam at Asesu Risg.

  • Darparwyr gwasanaeth/trydydd parti. Os yw darparwyr gwasanaeth neu drydydd parti yn ymwneud â’r gweithgaredd rhaid eu gwirio i weld eu bod yn addas ar gyfer gwaith gyda phlant ac oedolion bregus drwy ddarparu gwiriadau’r Biwro Cofnodion Troseddol a dylid eu gwneud yn ymwybodol o’r gwiriadau iechyd a diogelwch sydd angen eu cyflawni.


iv) Pethau i’w cofio

  • Bydd asesiad risg yn rhestru’r risgiau posibl i iechyd a chamau i’w cymryd er mwyn cwtogi ar neu ddileu’r risgiau hynny. Bydd angen i chi hefyd neilltuo unigolyn i bob gweithred a gwirio eu bod i gyd wedi eu cwblhau.

  • Cadwch gopïau o’r holl ddogfennau Iechyd a Diogelwch, gohebiaeth a llythyrau ar ffeil gyda gwybodaeth am y gweithgaredd. Cadwch gopi o’ch asesiad risg gyda chi yn ystod y gweithgaredd.

  • Gofalwch eich bod yn cynllunio i ymweld â’r gweithgaredd ymlaen llaw neu i wirio bod yr holl argymhellion iechyd a diogelwch yn eu lle.

   
   

 

 
 

 
 

 
     

 Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net