|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
B. 6) HYFFORDDWYR – DARPARWYR GWASANAETH
Yn achos MENCAP Llanfyllin a phrosiect Coedlannau ar gyfer Lles Tir Coed, mae Gweithwyr Iechyd a Chymorth wedi eu hyfforddi yn sgiliau crefftau’r goedlan a oedd wedyn yn cael eu defnyddio i ddatblygu rhaglenni penodol o weithgareddau gyda’u Darparwyr Gwasanaeth. Mae darparu hyfforddiant ymarferol i ofalwyr profiadol wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae darparwyr hyfforddiant yn cynnwys:
Coleg Coppicewood yng Ngorllewin Cymru sy’n darparu cymorth ac yn addysgu sgiliau gwledig a choedlan traddodiadol.
Mae
Canolfan y Goedwig Werdd wedi ei lleoli yn safle Treftadaeth Byd hardd Ceunant Ironbridge lle maent yn addysgu dros 70 o gyrsiau crefft traddodiadol.
Mae Canolfan Bishops Wood,
yn Swydd Gaerwrangon, yn darparu amgylchedd o ansawdd uchel ar gyfer hyfforddiant gyda chyfleusterau awyr agored ardderchog a mynediad at nifer o gynefinoedd gan gynnwys coedlannau o goed deri, dolydd a nifer o adeiladau amgylcheddol arbrofol.
Mae Grŵp Coedlan Nanteos a leolir ger Aberystwyth yn cynnig hyfforddiant mewn sgiliau crefftau'r goedlan traddodiadol i grwpiau ysgol, plant wedi eu heithrio, pobl gydag anableddau dysgu, cleientiaid o ganolfan adfer yn dilyn camddefnyddio cyffuriau ac alcohol leol ac aelodau eraill o’r gymuned.
Golosg Bodffari
Mae’r grŵp hwn o weithwyr coedlannau yn cynnal cyrsiau ar reoli’r goedlan, prysgoedio a chrefftau gwaith coed gwyrdd yn eu coedlan eu hunain ger Dinbych a hefyd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Maent yn ddarparwyr hyfforddiant ar gyfer Coedlannau ar gyfer Lles Tir Coed, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phrosiect Coed Deri Meirionnydd. Yn eu safle cartref ceir Ysgol Goedwig hefyd.
Hyfforddiant Celfyddydau Cymru
Mae’n darparu gwasanaethau datblygu proffesiynol i bobl sy’n gweithio gyda’r celfyddydau ledled Cymru.
Cerdded Llwybr Iechyd
Mae’n cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim i bobl sy’n dymuno cymryd rhan mewn prosiectau sy’n ymwneud â throeon lleol er budd eu hiechyd. Yn arbennig, cwrs undydd sydd wedi ei fwriadu ar gyfer arweinwyr teithiau gwirfoddol, a chwrs deuddydd i gydlynwyr cynlluniau lleol.
Coedwig Graybeards
Mae hon yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi sy’n seiliedig ar y goedlan yng nghoedlannau’r hyfforddwr ei hun yng Ngorllewin Cymru. Mae’r grŵp yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant i grwpiau o dan anfantais a rhai sydd ar yr ymylon. Gellir teilwrio cyrsiau i ateb gofynion y grwpiau.
Hyfforddiant Amgylcheddol Gwendraeth
Rhwydwaith o hyfforddwyr sy’n gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i godi ymwybyddiaeth am goedlannau fel adnodd naturiol cynaliadwy, gyda phwyslais ar weithgareddau ymarferol fel gwneud golosg, gwaith helyg ac ati. Maent yn darparu cyrsiau ac arddangosfeydd ynglŷn â gwerth gwarchod yr amgylchedd, rheoli gwastraff a gwaith traddodiadol yn ymwneud â choedlannau. Gall Addysg Amgylcheddol Gwendraeth ddarparu hyfforddiant yn ymwneud â sgiliau crefftau’r goedlan, sgiliau rheoli’r goedlan, a chelfyddydau amgylcheddol. Ebost: suekhall@onetel.com
Martin
Dawes
Artist a cherddor gyda deng mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio/o dan anfantais cymdeithasol, fel Gweithiwr Celfyddydau Ieuenctid annibynnol ac fel Gweithiwr Ieuenctid gyda chymwysterau priodol mewn darpariaeth ieuenctid statudol.
Ffôn: (01248) 605470 / (07742) 082078
Pobl y
Fforest
Grŵp cymunedol a leolir yn ardal Coedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin. Maent wedi adnewyddu adeilad coedwigaeth, sy’n cynnwys gweithdai, ystafell hyfforddi, toiledau a chyfleusterau cegin sylfaenol, a brydlesir oddi wrth Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, ynghyd ag ardal fechan o goedlan gyfagos. Mae’r goedlan a rhan o’r adeilad wedi eu cyflwyno i weithgareddau’r Ysgol Goedwig drwy drefniant gydag Ysgol Goedwig Brechfa.
Ffôn: Fay Sharpley (01267) 202221
Forest
School, SNPT
Rhwydwaith o Ysgolion Coedwig yn Ne Cymru, sydd wedi datblygu rhaglenni Ysgolion Coedwig ac wedi creu safleoedd newydd lle gellir cyflwyno prosiectau’r Ysgolion Coedwig. Mae’r grŵp wedi cynnal sesiynau’r Ysgolion Coedwig i grwpiau o’r Tîm Diogelwch Cymunedol a’r Rhaglen Dysgu Hyblyg yng Nghastell Nedd Port Talbot yn ogystal â’r Tim Troseddau Ieuenctid yn Abertawe.
Ffôn: June Francis (01792) 367118
Grŵp Cymunedol Ymddiriedolaeth Dant y Llew
Grŵp yn nwyrain Sir Benfro gyda phrofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc sydd wedi colli diddordeb/o dan anfantais gymdeithasol drwy The Prince’s Trust a chyrff ieuenctid tebyg. Mae’r Grŵp Cymunedol yn rheoli coedlan aeddfed hardd 60 hectar sy’n agored ar gyfer ei defnyddio gan grwpiau addysgol. Mae grwpiau yn cyfranogi mewn tasgau sy’n ymwneud â rheoli’r goedlan a chodir tâl bychan am ddefnyddio’r gweithdy.
Ffôn: Sam Hawthorn: (01437) 532973
Coedlan Gymunedol Nant y Cwm
Maent yn rheoli coedlan gymunedol yn Sir Benfro. Maent yn y broses o godi rhodfeydd uchel a fydd yn gyfle gwych i’r rhai mwy anturus. Mae’r Grŵp yn cynnwys hyfforddwyr sy’n arbenigo mewn rheolaeth amgylcheddol, gwaith coed gwyrdd a chelfyddydau cymunedol.
Ffôn: Dave Hoyle (07870) 627793
Mae ‘Canopi’, Ysgolion Coedwig Gorllewin Cymru yn gwmni heb fod ar gyfer gwneud elw sy’n hyrwyddo a datblygu Ysgolion Coedwig yn eu holl amrywiaeth yng Ngorllewin Cymru. Er bod Ysgolion Coedwig yn datblygu sgiliau ymarferol gan gynnwys crefft gwersylla a chrefftau coed nid yw’n canolbwyntio ar weithgareddau; yn hytrach mae’n datblygu sgiliau personol, cymdeithasol a chyfathrebu, hunan-barch a hunan-hyder.
Cysylltwch ag Ysgrifennydd y Cwmni: Martin Paine, Danu Blue, Blwch Post 38, Arberth, Sir Benfro, SA67 7WZ, Cymru, DU. Ffôn/Ffacs +44 (0) 845 458 3013 Symudol +44 (0) 7817 273396.
Artapart
Artist cymunedol gyda chyfoeth o brofiad o arwain gweithgareddau’r celfyddydau amgylcheddol gyda phobl ifanc a grwpiau sydd wedi colli diddordeb o ganolfannau ail-sefydlu a Chanolfannau Iechyd Meddwl.
Ffôn: Sarah Wentworth (01559) 363273 / (07903) 735499 Mae’n gweithio yn Llandysul ond yn ymdrin â De Orllewin Cymru i gyd.
Helen a
Graham Porter (Powys)
Maent yn arbenigo mewn gwaith helyg gwyrdd a gwaith coed ac maent wedi gweithio gyda nifer o grwpiau bregus. Ffôn: Cartref (01686) 650326 helenfporte@ontel.com a grahamporter@ontel.com
Stiwdio’r Gelfyddyd Werdd
Maent yn cynnal prosiectau celfyddydau amgylcheddol ac wedi gweithio gyda phobl ifanc a grwpiau sydd wedi colli diddordeb a Defnyddwyr Gwasanaeth Iechyd Meddwl ymysg eraill. Lleolir y stiwdio ar safle mewn coedlan ger Llanelli, er y gall artistiaid weithio oddi ar y safle os oes angen.
Ffôn: Ada Garton (01554) 759944 adagarton@yahoo.co.uk
|