-
Gofalwch fod gan bartneriaid nodau cyffredin
-
Peidiwch â defnyddio terminoleg ar gyfer sectorau penodol oherwydd gall hyn fod yn ddryslyd a pheri braw
-
Cytunwch ar ddosbarthu cyfrifoldebau
-
Cytunwch ar gaffael a dyrannu cyllid
-
Lluniwch Gytundeb Partneriaeth
-
Datblygwch Gynllun Gweithredu
-
Cynhwyswch gyfranogiad gan y Defnyddwyr Gwasanaeth i gymaint o’r gwaith o reoli a datblygu’r gwasanaeth â phosibl
-
Gofalwch eich bod yn cynnal cysylltiadau da rhwng partneriaid a chynhaliwch gyfarfodydd rheolaidd
-
Enwebwch gadeirydd ar gyfer y cyfarfodydd a chytunwch ar allbynnau a chyfrifoldebau
-
Cymerwch a chytunwch ar gofnodion pob cyfarfod
-
Gofalwch eich bod yn gwneud gwerthusiadau wedi eu hamserlennu a gofalwch fod y partneriaid i gyd yn derbyn canmoliaeth am gyfranogi.
-
Mae The Prince’s Trust wedi cynhyrchu adroddiad manwl o’r enw Gwneud i Bartneriaethau Weithio yn ogystal â thaflen gryno i dynnu sylw at y prif bwyntiau.