|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
B. 4) SUT Y GALLAF DDOD O HYD I DDARPARWYR GWASANAETH NEU BARTNERIAID PROSIECT POSIBL?
Hyd yma dim ond ychydig o enghreifftiau sydd yna o gynlluniau coedlannau yng Nghymru sy’n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i asiantaethau gofal iechyd a chyrff cymorth cymunedol ar ffurf lleoliad a gweithgareddau. Efallai y bydd yn rhaid i asiantaethau gofal iechyd neu gorff cynnal fod yn brif bartner mewn cynlluniau fel yn astudiaeth achos Llanfyllin. Mewn enghraifft o’r fath mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r prif bartner gysylltu â rheolwr coedlan leol, crefftwr neu hyfforddwr. Cysylltwch â’ch Swyddog Partneriaeth Coed Lleol a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw gynlluniau iechyd cyfredol yn ymwneud â choedlannau yn eich ardal, neu bartneriaid posibl y gellir cysylltu â nhw i ffurfio prosiectau newydd. Yn ychwanegol gall y pwyntiau cyswllt hyn fod yn ddefnyddiol.
Bydd y swyddog Cyd Coed rhanbarthol yn gallu eich hysbysu am Grwpiau Coedlannau Cymunedol mewn ardaloedd Amcan Un sydd naill ai yn ymgymryd â phrosiectau iechyd mewn coedlannau neu sydd â photensial i wneud hynny.
Cynhelir cynlluniau Mentro Allan drwy’r rhan fwyaf o Gymru. Cysylltwch â’ch prosiect lleol a gofynnwch iddynt gynnwys gweithgareddau’r goedlan yn eu rhaglen.
Mae Tir Coed wedi hyfforddi Gweithwyr Cymorth Iechyd Meddyliol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mewn sgiliau gwaith coed gwyrdd ac wedi darparu citiau sylfaenol ar gyfer Canolfannau Iechyd Meddwl drwy eu prosiect Coedlannau ar gyfer Lles. Mae ganddynt gysylltiadau â grwpiau coedlannau cymunedol ledled y Gymru wledig, yn ogystal â chyda Darparwyr Gwasanaeth sy’n gysylltiedig â choedlannau.
Mae hon yn trefnu gweithgareddau mewn coedlannau, plannu coed, digwyddiadau i gasglu hadau, teithiau tywys ac ati. Gellir gweld manylion ar wefan Coed i Bawb o dan digwyddiadau. Ewch i:
Coed i Bawb Cymru, Ymddiriedolaeth Coedlannau Cymru (Coed Cadw).
I gael gwybodaeth am grwpiau coedlannau lleol sy’n gwirfoddoli o fewn Coedlannau Cymru ewch i:
www.yourwoods.org.uk
Ymddiriedolaeth Groundwork Cymru swyddfa leol i weld a oes ganddynt goedwigoedd addas ar gyfer prosiectau iechyd a lles yn eich ardal.
Mae rhaglen Campfa Werdd BTCV yn ymgymryd â gweithgareddau gwirfoddoli ar gyfer cadwraeth sy’n eich helpu i gadw’n ffit. Cysylltwch â’ch swyddfa leol i weld a oes ganddynt unrhyw brosiectau rheoli coedlannau.
Maent yn rheoli llawer o goedlannau ac mae ganddynt raglenni gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau yn ymwneud â gwarchod natur. Cysylltwch â’ch Ymddiriedolaeth leol.
Mae’r cynllun Cerdded Llwybr Iechyd yn trefnu teithiau gyda chymorth tuag atynt ledled Cymru, y cynhelir rhai ohonynt mewn coedlannau. Cysylltwch â’ch cynllun lleol.
|