|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
B. 3) BLE Y GALLAF DDOD O HYD I LE ADDAS MEWN COEDLAN LEOL?
“Your Local Woods Guides” Coed Lleol
Mae canllawiau wedi eu hargraffu ynghylch coedlannau hygyrch i’r cyhoedd drwy bob rhan o ardal Amcan Un ar gael o wneud cais amdanynt oddi wrth Swyddog Partneriaeth Coed Lleol. Mae gan wefan Coed Lleol fapiau y gellir clicio arnynt o goedlannau hygyrch drwy Gymru.
Coed Cadw yr Ymddiriedolaeth Coedlannau
I gael cyfarwyddiadur o goedwigoedd a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Coedlannau cliciwch yma. Safleoedd yr Ymddiriedolaeth Coedlannau. Hysbyswch y Swyddog Coedlannau y bydd ei fanylion cyswllt ar wefan y goedwig os ydych yn gwneud gweithgareddau grŵp.
Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru
Maent yn rheoli llawer o goedlannau ac mae ganddynt raglenni gwirfoddoli yn ymwneud â gweithgareddau gwarchod natur. Cysylltwch â’ch Ymddiriedolaeth leol.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Mae gan wefan Lleoedd i Fynd Iddynt beiriant chwilio sy’n eich helpu i ddod o hyd i un o goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth ger eich tref chi. Gydag ychydig o eithriadau mae gan holl goedwigoedd y Comisiwn Coedwigaeth fynediad cyhoeddus llawn. Ond ar gyfer gweithgareddau grŵp, mae’n rhaid cysylltu â Rheolydd Ardal y Comisiwn Coedwigaeth am ganiatâd ysgrifenedig yn dilyn llenwi asesiadau risg priodol.
Coedwigoedd i Bawb Cyd Coed
Un o gynlluniau Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw hwn sy’n cefnogi Grwpiau Coedlannau Cymunedol mewn ardaloedd Amcan Un. Bydd y Swyddogion Cyd Coed rhanbarthol yn gallu rhoi gwybodaeth am goedlannau cymunedol sy’n lleol i chi. Gall y Grwpiau Coedlannau Cymunedol eu hunain fod â chynlluniau penodol sy’n gysylltiedig ag iechyd neu gallant fod yn ymgymryd â gweithgareddau addas mewn coedlannau.
|