<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>

B. 2) BETH I’W YSTYRIED WRTH DDEWIS LLEOLIAD MEWN COEDLAN

  • Po fwyaf lleol yw’r goedwig i’r Defnyddiwr Gwasanaeth y gorau i gyd, oherwydd cludiant bob amser yw un o’r problemau mwyaf. Gofalwch fod y tir yn addas ar gyfer anghenion eich Defnyddwyr Gwasanaeth. Mae peryglon yn ymwneud â baglu yn creu mwy o broblemau i rai buddiolwyr gydag anableddau.

  • Mae cyfleusterau toiled yn bwysig os bwriadwch fod yn y coedwigoedd am fwy nag ychydig oriau. Gellir hurio Portaloos ond ystyriwch adeiladu toiledau compost. Gweler www.compostingtoilet.org

  • Mae cysgod rhag y glaw yn hanfodol os ydych yn gwneud gwaith coed gwyrdd a gweithgareddau celf er mwyn i’r gweithgareddau barhau hyd yn oed mewn tywydd anffafriol. Os na cheir dim byd arall, gellid gosod tarpolin wedi ei glymu wrth goed cyfagos.

  • Ystyriwch y safle mewn perthynas ag anghenion arbennig eich Defnyddiwr Gwasanaeth. Er enghraifft, rhaid gwneud asesiad risg penodol ar gyfer rhywun gydag anableddau corfforol.

  • Gall Defnyddwyr Gwasanaeth gydag anawsterau dysgu gael problemau gyda pheryglon yn ymwneud â baglu ac asesu tymheredd eu corff eu hunain wrth weithio’r tu allan. Mae’n bwysig adlewyrchu hyn yn eich asesiad risg.

  • Naill ai gofalwch fod gan y safle signal ffôn symudol neu fod gweithdrefn frys ar gyfer galw pobl ar y ffôn wedi ei sefydlu.

  • Gofalwch fod mynediad addas i gerbydau’r gwasanaethau brys.

  • Dylai’r goedlan fod yn groesawgar. Gall planhigfeydd conwydd trwchus fod yn annymunol a chodi ofn arnoch. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn teneuo coed i agor safleoedd a gwahodd mynediad. Mannau agored mewn coedlannau yn aml yw’r lleoliadau gorau ar gyfer gweithgareddau.

   
   

 

 
 

 
 

 
     

 Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net