|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
B. 1) SUT I DDATBLYGU RHAGLEN GWEITHGAREDD COEDLANNAU
i)
Dewis gweithgaredd
Mae cyfateb y gweithgaredd cywir gydag anghenion y Defnyddwyr Gwasanaeth arbennig yn holl bwysig a dylid ei wneud ar ôl trafodaethau rhwng y staff cymorth, staff gweithgaredd y goedlan, a’r Defnyddwyr Gwasanaeth eu hunain. Mae coedlannau yn cynnig y fath ddewis o weithgareddau fel y dylai datblygu a chyflwyno gwasanaeth allu bodloni anghenion y defnyddwyr yn fanwl.
-
Penderfynwch beth yw amcanion y gweithgaredd yn nhermau cynyddu gweithgaredd ffisegol, hunan-barch neu ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac ati.
-
Gofalwch fod ystod o ddewisiadau ar gael i’r Defnyddwyr Gwasanaeth roi cynnig arnynt. Rhaid i fuddiolwyr gyfrannu at gynllunio gweithgaredd.
-
Mae gweithgaredd blasu neu beilot yn aml yn syniad da cyn datblygu rhaglen ddiffiniol.
-
Peidiwch â bod yn rhy uchelgeisiol; crëwch hyder gyda thargedau bychain a hawdd eu cyrraedd.
-
Ceisiwch oresgyn rhwystrau diwylliannol mewn rhai amgylchiadau a pheidiwch â thybio bod y Defnyddiwr Gwasanaeth yn gallu gwerthfawrogi bod y tu allan ar unwaith neu ei fod yn rhannu eich gwerthoedd amgylcheddol personol chi.
-
Try and
overcome cultural barriers in certain circumstances and do not
assume that the Service User has an immediate appreciation of being
outdoors or shares your personal environmental values.
-
Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau a’r anghyfartaleddau ymysg buddiolwyr fel bod gweithgareddau yn hyrwyddo cyfranogiad ehangach a chynhwysol.
-
Mae cynhyrchu rhywbeth cyffyrddadwy yn bwysig o ran creu hyder ond peidiwch â gadael i’r nod yn y pen draw fod mor frawychus fel bod bodlondeb yn cael ei golli yn y broses.
-
Yn fwy na dim gofalwch fod y gweithgaredd yn hwyl ac yn bleserus.
-
Bydd y canllawiau Par-Q yn helpu Defnyddwyr Gwasanaeth i fesur a ddylent ymgynghori gyda Meddyg cyn cyflwyno rhaglenni gweithgaredd corfforol.
ii)
Maint y grŵp
Mae hyn yn dibynnu ar y gweithgaredd a wneir ac anghenion unigol y Defnyddiwr Gwasanaeth. Mae gweithgareddau syml o ran rheoli coedlannau fel tocio coed yn rhywbeth y gellir ei wneud gan grŵp cymharol fawr, oherwydd bod y peryglon sydd ynghlwm â hyn yn weddol isel ac mai dim ond ychydig o arolygaeth a gwaith paratoi sydd ei angen. Mae gweithgaredd fel trin turn polyn (‘pole-lathing’) yn fwy sgilgar a bydd angen naill ai lefelau uwch o arolygaeth neu grwpiau llai fel bod llai o bobl yn cael eu cadw i aros.
iii)
Lefelau arolygaeth
Bydd y gweithiwr iechyd neu gymorth yn gwybod pa lefelau o arolygaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer rhoi gofal personol i’w Defnyddwyr Gwasanaeth unigol. Mae’n bwysig dewis gweithgaredd i gyfateb i lefelau’r arolygaeth sydd ar gael fel y gall cymaint o fuddiolwyr â phosibl fod yn weithredol ar unrhyw un adeg.
iv)
Hyd, amledd a pharhad
Yr argymhellion cyfredol ar gyfer gweithgaredd corfforol mewn oedolion i ddod â budd i iechyd yw o leiaf 30 munud o weithgaredd cymedrol bum gwaith yr wythnos. Bydd yn anodd darparu’r lefel hon o arolygaeth i aelodau anodd eu cyrraedd o’r gymuned a all beidio bod yn barod i ymgymryd â’r newid hwn i’w ffordd o fyw ar eu pen eu hunain. Amcan rhaglen wedi ei hanelu at y sector hon o gymdeithas yw darparu strwythur ar gyfer annog a gwobrwyo cyfranogiad. O arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru byddai’n ymddangos y byddai pedair awr o sesiynau o dan arolygaeth unwaith yr wythnos am chwe mis yn darparu’r lefel gorau posibl o fudd i iechyd o weithgareddau yn y goedlan. Dylai nod tymor hir unrhyw raglen iechyd a lles ymwneud ag ysgogi ymarfer annibynnol o 30 munud, bum gwaith yr wythnos.
v) Gwerthuso a chasglu tystiolaeth
Mae’n bwysig gosod canlyniadau prosiect er budd y Defnyddwyr Gwasanaeth a phartneriaid a chyllidwyr y prosiect. Penderfynwch ar ba ddangosyddion a ddefnyddir i asesu cynnydd pob cyfranogwr unigol. Mae’n amlwg yn bwysig peidio â brawychu’r buddiolwyr gyda’r parametrau hyn ar ddechrau’r prosiect. Dylid gwerthuso’r prosiect hefyd fel y gellir cyflwyno tystiolaeth i helpu i ddylanwadu ar bobl ynglŷn ag ymarfer yn yr awyr agored. Byddai’n ddymunol i hyn gael ei wneud mewn ffyrdd safonol fel y gall gwybodaeth gael ei chydlynu gyda chynlluniau eraill. Mae’r cynllun Cerdded Llwybr Iechyd wedi cyflawni gwerthusiadau ar brosiectau cenedlaethol a lleol gan ddefnyddio holiaduron safonol. Cerdded Llwybr Iechyd: Adroddiadau gwerthuso WHI 2006.
Teclyn hunan-werthuso arall yw MYMOP, ‘Measure Yourself Medical Outcome Profile: www.hsrc.ac.uk/mymop/main.htm Yma ceir holiadur syml un dudalen y mae’r Defnyddiwr Gwasanaeth yn nodi un neu ddau o symptomau a ystyriant fel y rhai pwysicaf iddyn nhw, gan sgorio eu difrifoldeb ar system o 7 o bwyntiau. Llenwir holiadur pellach ar ôl i’r gweithgaredd gael ei wneud fel y gall y cynnydd gael ei werthuso.
vi)
Cynllunio ar gyfer cynaliadwyedd
Os sicrhawyd cyllid a bod disgwyliadau wedi eu creu mae’n bwysig cynllunio i’r prosiect gael ei gynnal y tu hwnt i’r cyfnod cyllido. Mae dau grŵp Cerdded Llwybr Iechyd yn darparu astudiaethau achos,
sy’n dangos sut y bu iddynt gyflawni hyn pan ddaeth cyfnod cyllido eu cydlynwyr i ben.
|