|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
Coedlannau ar gyfer Iechyd a Lles:
Pam a Sut
Canllaw Ymarferol i Ymarferwyr Gofal Iechyd a Gweithwyr Cymorth sy’n dymuno defnyddio manteision profedig yr amgylchedd naturiol i hyrwyddo Iechyd a Lles.
Am y Canllaw hwn
Datblygwyd y canllaw hwn gan bartneriaeth Coed Lleol mewn ymgynghoriad â’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol ac fe’i hanelir at Ymarferwyr Gofal Iechyd a Gweithwyr Cymorth sy’n dymuno ymchwilio i ddewisiadau arloesol ar gyfer datblygu iechyd a lles Defnyddwyr eu Gwasanaeth. Mae’n dangos sut y gall coedlannau a gweithgareddau’r goedlan ddarparu cyfleoedd unigryw i gyflawni’r nodau hyn. Mae’r canllaw yn egluro wedyn sut i ddatblygu rhaglen iechyd a lles mewn coedlannau.
Rhennir y canllaw yn dair adran
Adran A.
Mae hon yn egluro PAM y mae coedlannau yn arbennig o briodol i hyrwyddo gweithgaredd corfforol a lles emosiynol drwy gyflwyno darganfyddiadau ymchwil a hyrwyddo manteision penodol coedwigoedd a gweithgareddau’r goedlan yn y cyd-destun hwn.
Adran B.
Mae hon yn darparu canllawiau ynghylch SUT i ddatblygu rhaglen gweithgareddau’r goedlan, gan dynnu ar brofiad cyfredol yng Nghymru. Cyfarwyddir darllenwyr at adnoddau defnyddiol o leoliadau priodol mewn coedlannau, darparwyr gwasanaethau coedlan, hyfforddiant a chyllid posibl.
Adran C.
Mae hon yn cyflwyno ASTUDIAETHAU ACHOS o gynlluniau iechyd sy’n ymwneud â choedlannau yng Nghymru ac yn tynnu sylw at elfennau allweddol sy’n cyfrannu at eu llwyddiant.
Sut i ddefnyddio’r canllaw hwn
Bwriedir i’r canllaw hwn gael ei ddefnyddio gan ymarferwyr gofal iechyd a gweithwyr cynnal yn ei ffurf electronig ac nid fel copi caled wedi ei argraffu. Mae’r dudalen cynnwys sy’n dilyn yn caniatáu i’r darllenydd ddewis meysydd diddordeb penodol drwy’r hyperlincs ar benawdau’r adrannau. Drwy gydol y ddogfen rhoddir hyperlincs i adnoddau perthnasol fel y gall y defnyddiwr gael at wybodaeth fanylach heb i’r ddogfen fynd yn rhy drwsgl.
Terminoleg
Lle defnyddir yr ymadroddion Defnyddiwr Gwasanaeth neu Gleientiaid mae’n cyfeirio at grwp targed yr Ymarferydd Gofal Iechyd neu’r Gweithiwr Cymorth megis pobl gydag anableddau dysgu, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, neu unigolion gyda chyflyrau penodol fel clefyd siwgr neu glefyd cardiofasgwlaidd neu bobl sy’n dymuno gwella eu lefelau o weithgaredd corfforol.
Mae Darparwyr Gwasanaeth yn cyfeirio at sefydliadau, cyrff statudol a grwpiau gwirfoddol sy’n ymgymryd â gweithgareddau mewn coedlannau a all wella iechyd a lles.
|