|
cynnwys | mynd yn ymlaen >>
Partneriaeth Coed Lleol

Mae Partneriaeth Coed Lleol yn gweithio i adfer y cysylltiadau rhwng pobl a choedlannau ar draws Cymru. Mae’n gwneud hyn drwy alluogi cyfathrebu arfer da a phrofiadau o reoli coedlannau gyda defnydd lluosog a thrwy hyrwyddo manteision coedlannau i sectorau eraill yng Nghymru fel iechyd, addysg a thwristiaeth.
Mae’r papur canllaw hwn yn gynnyrch profiad a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Coed Lleol. Mae cyfranwyr yn cynnwys: Golosg Bodffari, Cyd Coed, Comisiwn Coedwigaeth Cymru – Coedlannau ar gyfer Dysgu, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, Coedwig Graybeards, Ymddiriedolaeth Groundwork – Wrecsam a Sir y Fflint, Grwp Coedlan Nanteos, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol Cymru, Cymdeithas y Coedwigoedd Bychain, Tir Coed, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau ac Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru.
Dylid nodi’n arbennig gyfraniad y canlynol a gyflwynodd brofiadau yn ymwneud â phrosiectau:;
|