<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>

5) CYNLLUNIAU CENEDLAETHOL AR GYFER HYRWYDDO LLES DRWY LEOEDD GWYRDD YNG NGHYMRU


i) Y sail tystiolaeth – ymchwil Ymchwil Coedwigaeth

Iechyd a Lles

Mae Ymchwil Coedwigaeth, asiantaeth i’r Comisiwn Coedwigaeth, yn gwneud gwaith i fonitro a gwerthuso prosiectau coedwigaeth cymdeithasol yn y DU ac mae wedi cynhyrchu rhai cyhoeddiadau pwysig ac un ohonynt yw Trees and Woodlands Nature’s Health Service.


ii) Y dystiolaeth – cysylltiadau rhwng natur ac iechyd

I gael adolygiad o ddeg o bapurau ymchwil sy’n dangos y cysylltiadau rhwng natur ac iechyd, dilynwch yr hyperlinc i gynllun Cerdded Llwybr Iechyd y DU.


iii) Y dystiolaeth

Cerdded Llwybr Iechyd y DU

Mae’r cynllun Cerdded Llwybr Iechyd wedi cynhyrchu gwerthusiadau cenedlaethol a lleol o’r cynllun hwn ers 2001. Mae hwn yn darparu tystiolaeth bwysig i gefnogi ymarfer awyr agored yn gyffredinol. Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith fod cyfraddau uchel iawn o gyfranogwyr yn parhau i fynd am dro er mwyn eu hiechyd ac mae llawer o dystiolaeth ansoddol o’r manteision tybiedig i iechyd. Un o ddarganfyddiadau allweddol yr ymchwil hwn yw bod y troeon hefyd yn denu mwy na thraean o bobl a allai fod mewn perygl o ynysu cymdeithasol (sy’n berygl i iechyd ynddo’i hun).


iv) Y dystiolaeth – Manteision economaidd ymarfer rheolaidd Gwerthusiad economaidd o lwybrau cerdded a seiclo lleol.
Mae’r elusen cludiant cymunedol Sustrans wedi mabwysiadu dulliau’r Llywodraeth ei hun o fesur manteision economaidd cynlluniau cludiant a’u cymhwyso at nifer o lwybrau cerdded a seiclo lleol. Mae’r canlyniadau yn dangos bod ganddynt gymhareb mantais i gost o 20:1. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r gymhareb nodweddiadol o ddim ond 3:1 ar gyfer cynlluniau cludiant eraill fel rheilffyrdd a ffyrdd. Gall cymaint â hanner gwerth presennol net y llwybrau gael ei wireddu yn nhermau cynilion i’r gwasanaethau iechyd. Mae’r gwerthusiad yn cynnwys amcangyfrif o’r cynilion tebygol a wneir o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y marwolaethau o glefyd coronaidd y galon, strôc a chanser y colon sydd i gyd yn rhai o brif achosion marwolaeth y gellir ymladd yn eu herbyn gan weithgaredd corfforol. Mae hyn yn dystiolaeth bwysig i gefnogi manteision gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored yn gyffredinol fel yr hyn a wneir mewn coedwigoedd.


v) Strategaeth Genedlaethol:

Dringo’n Uwch

Yn 2005, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Dringo’n Uwch’ – ei strategaeth gweithgaredd chwaraeon a gweithgaredd corfforol a gyflwynodd weledigaeth ugain mlynedd ar gyfer cynyddu lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar draws Cymru.

Mae Lles yng Nghymru yn datblygu gwaith Llywodraeth y Cynulliad ymhellach i wella iechyd ac i gwtogi ar anghyfartaleddau mewn iechyd drwy ddull sy’n torri ar draws ei holl feysydd polisi. Mae yn

  • tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a lles ym mywyd bob dydd ac yn pwysleisio pwysigrwydd iechyd i’r economi;

  • yn cyflwyno argymhellion ar gyfer mwy o weithredu i gwtogi ar y gwahaniaethau mewn lefelau o iechyd o fewn Cymru;

  • yn annog y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i helpu i greu cymunedau cryfach drwy eu gwaith bob dydd;

  • yn rhoi gwybodaeth ar gyfer y gwaith y bydd Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol yn ei wneud yn lleol i wella iechyd a lles.


Gwella iechyd a lles gan ddefnyddio coedwigoedd a choedlannau yn unol â Lles yng Nghymru

Mae’r papur hwn yn ystyried rhaglenni a gweithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth yn nhermau eu cyfraniadau at iechyd a lles pobl fel y rhoddwyd manylion yn eu cylch yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Lles yng Nghymru’ fel y disgrifiwyd uchod.


vi) Rhwydweithiau Iechyd a Lles

Bydd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn cysylltu gydag unigolion a chyrff ar draws y sbectrwm cyfan o weithgaredd corfforol yng Nghymru, gan ddarparu cefnogaeth a hwyluso gweithio mewn partneriaeth.

Mae’r Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu ffocws ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a phrofiad rhwng cyrff gwirfoddol sy’n gweithio o fewn maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n fforwm ar gyfer trafod polisi perthnasol ac yn ddull o oleuo llunwyr polisïau. Cynhelir cyfarfodydd y rhwydwaith yn chwarterol.

Mae’r Rhwydwaith Lles Cyrff Anllywodraeth Cymru Gyfan yn anelu at sefydlu fframwaith effeithiol ar gyfer cyfathrebu gyda’r holl Gyrff Anllywodraethol sy’n ymwneud â lles sydd â diddordeb, a chyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a 22 o bartneriaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles lleol. Cysylltwch â Paul Walker 0777 4885855.

Mae Lles Gwledig yn wasanaeth gwybodaeth am iechyd a lles i bobl y Gymru wledig. Mae’r wefan yn anelu at ddarparu gwybodaeth ddibynadwy o ansawdd dda am ystod o faterion yn ymwneud ag iechyd a lles a chyfeirio pobl at gyrff a gwasanaethau iechyd yn eu hardal a all fod yn gallu darparu gwybodaeth neu gymorth ychwanegol.

Anogir datblygu ysgolion sy’n hybu iechyd yng Nghymru gan y Rhwydwaith o Gynlluniau Ysgolion Iach Cymru. Mae WNHSS yn annog datblygu cynlluniau lleol yn ymwneud ag ysgolion iach o fewn fframwaith cenedlaethol cyffredin. Mae'r rhain yn eu tro yn annog datblygu ysgolion sy’n hyrwyddo iechyd yn eu hardal.


vii) Cynlluniau Cenedlaethol

Her Iechyd Cymru yw cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella iechyd a lles. Mae’n cydnabod bod ystod eang o ffactorau - economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol - yn cael effaith ar iechyd, fel y gall gweithredu yn yr holl feysydd hyn helpu i greu cenedl iachach. Mae’n gynllun hyrwyddo trawsbynciol sy’n ceisio integreiddio’r neges iechyd i bob sector o gymdeithas o lywodraeth genedlaethol a lleol i’r sector gwirfoddol a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Datblygir y strategaethau hyn ac fe’u gweithredir gan bob un o’r 22 o Fyrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol ac maent yn gyfle i gynnwys coedlannau i helpu i gyrraedd nodau a osodwyd yng nghylch nesaf yr ymgynghoriadau. Maent hefyd yn un o nodweddion allweddol agenda polisi LlCC.

Cynllun gweithgaredd corfforol y Comisiwn Coedwigaeth sy’n cynnig cyngor ynglŷn â ble i fynd, profi eich ffitrwydd, gweithgareddau i blant a phrofion i losgi calorïau.

Cynllun a hyrwyddwyd yn wreiddiol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru sydd wedi sefydlu grwpiau cerdded lleol sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr a phartneriaethau o ymarferwyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth. Nid yw’r holl droeon yn cael eu cynnal mewn coedlannau.

 

viii) Cynlluniau Cenedlaethol

Rhaglen a gyllidir gan y Loteri Fawr o 16 o brosiectau awyr agored ledled Cymru sy’n targedu aelodau anodd eu cyrraedd a rhai nad ydynt yn actif yn y gymuned.

Mae Tir Coed yn elusen datblygiad gwledig sydd wedi datblygu partneriaethau cryf gyda pherchnogion coedlannau ac asiantaethau cynnal iechyd i hyrwyddo prosiectau iechyd a lles gan ddefnyddio canolfannau mewn coedwigoedd.

 

   
   

 

 
 

 
 

 
     

 Cynhelir Coed Lleol gan Gymdeithas y Coedwigoedd Bychain mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Dyluniad ar gyfer y We gan Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net