|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
4) GWEITHGAREDDAU’R GOEDLAN AR GYFER IECHYD A LLES
RHAGARWEINIAD
Gall coedwigoedd ddarparu lleoliad diogel a phriodol i ehangu cyfleoedd unigolion a’u helpu i wireddu eu potensial llawn. Mae’r gwasanaethau hyn yn gynaliadwy ac yn cael ei ddarparu’n lleol, gyda’r gallu i deilwrio patrwm o gyflwyno gwasanaethau i adlewyrchu hoffterau defnyddwyr. Ceir amrywiaeth eang o weithgareddau y gall Defnyddwyr Gwasanaeth gymryd rhan ynddynt wrth ymweld â choedlannau. Gall pob gweithgaredd wahaniaethu yn nhermau faint o ymarfer corfforol, canolbwyntio a rhyngweithio cymdeithasol sy’n ymwneud â nhw. Gall gweithgareddau felly gael eu dewis mewn ymateb i anghenion a galluoedd unigolion. Maent yn cynnwys:
Gwaith Coed Gwyrdd
Mae hon yn grefft hynafol sy’n gwneud defnydd o goed sydd newydd wedi ei dorri ac yn cynnwys nifer o grefftau’r goedlan gan gynnwys turnio, cerfio a nifer o dasgau yn gwneud cadeiriau, hyrdlenni, basgedi ac ati. Gall logiau gwyrdd gael e hollti yn rhwydd ar hyd y graen a’u gweithio gyda bwyell, ac yna eu siapio gyda thŵls syml eraill. Turn polyn (‘pole-lathe’) a weithir â llaw yw’r dull clasurol sy’n ganrifoedd oed a ddefnyddir i durnio coed gwyrdd (heb eu sesno). Mae nifer o fanteision yn perthyn i waith coed gwyrdd pan ddefnyddir y dull hwn i hyrwyddo iechyd a lles:
-
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn cael boddhad o gynhyrchu cynnyrch a all arwain at gynyddu hunan-barch.
-
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn cael hyder i ddysgu sgiliau newydd ac fe’u hysgogir i ddatblygu’r sgiliau hyn.
-
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn datblygu cydlyniad llaw a llygad.
-
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn datblygu sgiliau datrys problemau.
-
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth yn datblygu sgiliau o weithio mewn tîm.
-
Mae’n darparu cyfrwng pleserus ar gyfer gweithgaredd corfforol cymedrol.
-
Nid oes angen cyflenwadau pŵer fel y gall gweithdy gael ei sefydlu mewn lleoliad pleserus mewn coedlan.
-
Nid oes lawer o ystyriaethau iechyd a diogelwch o’u cymharu â’r peryglon sydd ynghlwm wrth weithio mewn gweithdy mecanyddol modern.
-
Mae’r diffyg llwch a sŵn yn arwain at amgylchedd gwaith iach a thangnefeddus.
Celfyddydau Amgylcheddol
Mae hyn yn golygu defnyddio defnyddiau a lleoliadau naturiol i greu argraffiadau effemeraidd weithiau o’r amgylchedd lleol. Gellir defnyddio coedwigoedd ar gyfer celfyddydau perfformio fel dawns, cân a theatr. Gellir defnyddio’r gweithgareddau hyn i ddatblygu creadigedd, ymwybyddiaeth a hyder cymdeithasol. Mae Ymddiriedolaeth Groundwork wedi datblygu Pecyn Adnoddau’r Celfyddydau cynhwysfawr ar gyfer prosiectau adfywhau.
Cadwraeth Amgylcheddol
Mae cynnal lefel ddigonol o weithgaredd corfforol i bobl nad oes ganddynt ddiddordeb mewn chwaraeon cystadleuol neu ymarfer er ei fwyn ei hun wedi bod yn broblem ers amser maith i weithwyr iechyd. Defnyddir gwaith cadwraeth fel rheoli planhigion ymledol, rheoli coedlannau a phlygu gwrychoedd i ysgogi pobl i fynd yn fwy actif. Gall gweithgaredd corfforol amrywio o ysgafn i galed i weddu i bob gallu. Mae’r gwaith hwn hefyd yn dod â bodlondeb o fod wedi cynhyrchu neu gyflawni rhywbeth adeiladol, h.y. mae gan y gweithgaredd bwrpas sydd wedi ei ddiffinio. Mae’r gweithgareddau hyn yn codi lefel gweithgarwch corfforol ac yn darparu fforwm i ddysgu sgiliau newydd a gwella ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mewn adroddiad gan BTCV (Gwarchodwyr Cefn Gwlad) yn asesu effeithiolrwydd ymarfer i ymladd yn erbyn problemau emosiynol dangosodd cyfranogwyr arwyddion o welliant yn eu sgoriau iechyd meddwl a thuedd gref tuag at lai o iselder ar ôl y tri mis cyntaf o gymryd rhan mewn Campfa Werdd. Cefn gwlad ar gyfer Iechyd a Lles. Manteision Ffisegol a Manteision i Iechyd Meddwl o Ymarfer Gwyrdd.
|