|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
3) SUT MAE COEDWIGOEDD YN CREU IECHYD A LLES?
I bobl nad ydynt yn arfer â gweithgareddau corfforol yn ogystal â’r rhai hynny sy’n cael eu hallgau yn gymdeithasol, mae coedlannau yn cynnig rhai priodoleddau cadarnhaol unigryw.
Coedwigoedd fel amgylcheddau heb fod yn awdurdodol a chynhwysol
Gall campfeydd a chaeau chwaraeon yn aml ymddangos yn awdurdodol ac yn frawychus neu ddod ag atgofion annymunol yn ôl am ddyddiau ysgol. Ond mae coedlannau yn rhoi amgylchedd mwy ymlaciol a chynhwysol. Credir bod ein hatyniad sylfaenol at natur, y mae rhai ymchwilwyr wedi ei alw yn Bio-ffilia yn bwysig yn emosiynol i ni i gyd a gall mynediad parhaus at yr amgylchedd hwn arwain at newidiadau cadarnhaol o ran diffinio’r hunan6. Gall cyswllt gyda, a dysgu mewn amgylchedd coedlan wella hunan-hyder a hunan-barch4.
Coedwigoedd fel amgylcheddau deniadol yn ffisegol a rhai sy’n darparu digon o le
Mae coedlannau yn gallu cynnwys llawer o bobl yn arbennig pan gymharir hwy â chaeau chwarae. Gallant dderbyn nifer fawr o bobl heb i bobl deimlo eu bod yn orlawn. Mae ymarferwyr iechyd yn aml yn cael anawsterau i sicrhau newidiadau tymor hir mewn gweithgaredd corfforol ac yn pwysleisio’r angen am amgylcheddau diogel a deniadol i gyflawni hyn2. Mae coedlannau yn ddymunol i fod ynddynt hefyd oherwydd eu bod yn amsugno swn a llygredd ac yn cwtogi ar beryglon llosgi yn yr haul neu strôc haul.
Coedwigoedd fel amgylcheddau aml-swyddogaeth
I unigolion anactif, gall gweithgaredd corfforol er ei fwyn ei hun fod yn frawychus. Mae’r hwb i ymarfer drwy gyfranogi mewn gweithgareddau pleserus yn holl bwysig i sicrhau newidiadau y gellir eu cynnal mewn ffordd o fyw. Mae’n bwysig darparu amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo lles3. Mae coedlannau yn cynnig cyfleuster aml-swyddogaeth lle gall pobl gyfranogi mewn cerdded, merlota, seiclo, celfyddydau amgylcheddol, gwaith coed gwyrdd, gwaith cadwraeth a gweithgareddau rheoli coedlannau.
Coedwigoedd fel amgylcheddau i hybu canolbwyntio
Priodolwyd pryder ac iselder mewn rhai achosion i flinder a gaiff ei greu pan fo sylw yn cael ei anelu at dasgau penodol. Mae coedlannau yn darparu amgylchedd sy’n diddanu yn weledol drwy symudiadau’r dail, yr adar a’r anifeiliaid, sy’n denu ein sylw mewn dull anwirfoddol, sy’n cael effaith adferol ar ein cyflwr emosiynol1. Mewn astudiaethau5 roedd y manteision yr oedd plant yn eu cael wrth ddefnyddio lleoedd gwyrdd, fel gallu canolbwyntio yn well, yn digwydd nid yn unig yn ystod yr amser roedd y plant yn ei dreulio yn chwarae mewn lleoliadau gwyrdd ond roedd hefyd yn cael ei gynnal mewn modd nad oedd yn digwydd pan oeddent yn chwarae dan do.
Coedwigoedd fel cyfleusterau cost-effeithiol, parod a hygyrch
Ceir 286,000 hectar o goedlannau yng Nghymru ac mae mynediad cyhoeddus i lawer ohonynt. Gydag ychydig o eithriadau, mae gan y rhan fwyaf o’r 118,000 hectar o goedlannau’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru fynediad cyhoeddus llawn. Ffurfiwyd nifer o gyrff coedlannau a grwpiau coedlannau cymunedol i hwyluso mynediad a chyfranogiad. Lleolir llawer o’r adnodd hwn mewn ardaloedd o amddifadedd uchel lle mae cyfleusterau chwaraeon yn brin. Mae coedwigoedd yn darparu cyfleuster parod nad oes raid talu amdano a lle nad oes angen talu ffioedd ymaelodi.
-
Kaplan,
S. (1995). The restorative benefits of nature: towards an
integrative framework. Journal of Environmental Psychology.
-
Laitakari,
J., Vuori, I. and Oja, P. (1996). Is long term maintenance to health
related physical activity possible? An analysis of concepts and
evidence. Health Education Research 4, 463-477
-
Martilla,
J., Laitakari, J., Nupponen, R., Miilunpalo, S. and Paronen, O.
(1998). The versatile nature of physical activity on the
psychological, behavioural and contextual characteristics of health
related physical activity. Patient Education and Counselling 33, S29-S38
-
Murray,
R. (2003). Forest School evaluation project: a study in Wales.
Report to the Forestry Commission
-
O’Brien,
E. (2004). A sort of magical place: people’s experiences of
woodlands in northwest and southeast England. Forest Research,
Farnham.
-
Pretty,
J., Griffin, M., Peacock, J., Hine, R., Sellens, M and South ,N
(2005). A countryside of health and wellbeing: the physical and
mental health benefits of green exercise. Report for the
Countryside Recreation Network
-
Halliwell,
E., (2005) Up and Running. Exercise therapy and the treatment of
mild or moderate depression. Mental Health Foundation. ISBN: 1
903645670
|