|
<< mynd yn ôl | cynnwys | mynd yn ymlaen >>
SUT Y GALL COEDLANNAU GAEL EU DEFNYDDIO AR GYFER IECHYD A LLES?
1)
RHAGARWEINIAD
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru. Mae ymarferwyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth felly yn datblygu ystod o ddewisiadau ar gyfer cyrraedd y nod hwn. Mae manteision gweithgaredd corfforol rheolaidd yn amlwg o nifer o astudiaethau academaidd a rhai a gyllidwyd yn gyhoeddus. Mae manteision corfforol cynyddu gweithgaredd corfforol yn cynnwys cwtogi ar ac atal:
Gall y manteision i iechyd meddwl o gynyddu gweithgaredd corfforol ac o amlygiad i amgylchedd y goedlan helpu i –
-
gwtogi ar ac atal straen,
-
lliniaru iselder ysgafn i ganolig,
-
gwella hunan barch,
-
gwella gweithrediad gwybyddol
Mae’r canllaw hwn yn cyflwyno’r achos dros ddefnyddio coedwigoedd a gweithgareddau a leolir mewn coedlannau i hyrwyddo gweithgaredd corfforol ac yn ei dro les corfforol ac emosiynol, yn arbennig ymysg aelodau o’r gymuned sy’n anodd eu cyrraedd. Yn yr adran hon eglurir pwysigrwydd darparu amgylchedd naturiol cynhwysol, tangnefeddus a deniadol i annog a chynnal cyfranogiad mewn rhaglenni iechyd a lles. Yna mae’r adran ganlynol yn disgrifio sut y gellir defnyddio ystod o weithgareddau yn y goedlan i gysylltu pobl â gweithgaredd corfforol a datblygu eu hyder a’u synnwyr o gyflawni.
|