|
|
Sir Drefaldwyn Gogledd Powys |
|
|
|
|
|
|
|
-
Lleoliad Coedlannau
Ewch â’r llygoden dros y
lleoliadau i ddarganfod eu henwau. Cliciwch ar
y lleoliadau am fwy o fanylion. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
1. Dyfnant
|
|
| |
|
|
| |
SJ033155
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
|
| |
|
|
| |
Mae Dyfnant
yn goedwig anghysbell ar dir uchel rhwng dyffrynnoedd Afon
Twrch i'r gorllewin ac Afon Efyrnwy i'r dwyrain.
Lleoedd i
fynd:Dyfnant
Pont Llogel
Dyfnant |
|
| |
|
|
| |
2. Hafren
|
|
| |
|
|
| |
SN857868
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
|
| |
|
|
| |
Daw enw'r Goedwig o Afon
Hafren sy’n tarddu mewn mignen ddofn, 800 metr y tu allan
i'w ffin, yn uchel i fyny ar lethrau Pumlumon. Bron ar
unwaith mae'n cychwyn ar ei thaith hir i Fôr Hafren, gan
fynd yn gyntaf drwy goetiroedd o binwydd a sbriws. Mae'n
bosibl cerdded at darddiad Hafren o Goedwig Hafren. Mae
Taith Hafren, taith gerdded glan afon hwyaf Prydain, yn
dechrau wrth y tarddiad.
Mynediad
trwy
Safle Picnic
Rhydybenwch
SN 857 869 |
|
| |
|
|
| |
3. Ceri
|
|
| |
|
|
| |
SO192874
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
|
| |
|
|
| |
Coedwig conifferau cymysg
sydd yn eistedd ar esgair Cefnffordd Ceri yn ucheldir Sir
Drefaldwyn yw Coedwig Ceri. Mae Cefnffordd Ceri, llwybr
troed hirbell rhanbarthol, yn rhedeg o gerllaw’r Drenewydd
ym Mhowys drwy goedwig Ceri i Drefesgob yn Sir Amwythig. |
|
| |
|
|
| |
(Brig) |
|
| |
|
|
| |
4. Mathrafal
|
|
| |
|
|
| |
J154132
Comisiwn Coedwigaeth Cymru |
|
| |
|
|
| |
Coetiroedd bychain yw
coedwigoedd Mathrafal yn nyffryn Meifod sy’n cynnig llwybrau
cerdded a safleoedd o ddiddordeb hanesyddol. |
|
| |
|
|
| |
5. Pant yr Eos, Powys
|
|
| |
|
|
| |
SJ176285
Coed Cadw |
|
| |
|
|
| |
Mae Pant yr Eos yn
blanhigfa gymysg o goed llydanddail a chonwydd sy’n ffurfio
cyfanswm o 8.48 ha. Mae’r goedlan a leolir ar lethr serth
sy’n wynebu’r gogledd ddwyrain yn cael ei goruchafu gan
blanhigfa o goed conwydd gyda llarwydd a chegid fel y prif
rywogaethau. Mae bloc bychan ynysig o gedrwydd coch
Siapaneaidd aeddfed ifanc ym mhen deheuol y goedlan. |
|
| |
|
|
| |
6. Pwll Pwll Granllyn, Powys |
|
| |
|
|
| |
SJ224117
Coed Cadw 3.33 ha. (8.23 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae’r safle
yn cynnwys Pwll Granllyn ei hun, llyn bas gyda llystyfiant
ar ran ohono, ymyl o borfa wedi ei gwella yn flaenorol ar
lethr heb fod yn serth a blannwyd yn bennaf gyda choed
llydanddail brodorol gan yr Ymddiriedolaeth ym 1999 a chae
ychwanegol i’r de orllewin a brynwyd ac a blannwyd gan yr
Ymddiriedolaeth yn 2005. |
|
| |
|
|
| |
7. Coedwig Coedwig y Graig, Powys |
|
| |
|
|
| |
SJ174084
Coed Cadw 3.65 ha (9.02 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Coedwig y Graig sy’n
gwneud cyfanswm o 3.24 ha yn cynnal coedlan hynafol lled
naturiol hynafol a oruchafir gan goed derw, y mae llawer
ohoni wedi tarddu o brysgoed, yn rhannol o ganlyniad i dorri
coed yn sylweddol tua 1920. Ceir yma hefyd goed ynn, a
rhywfaint o fasarn, bedw, ffawydd, masarnwydd lleiaf ac
afalau surion. Mae nifer o hen goed mawr, hen goeden dderwen,
derw prysgwydd gyda choesynnau lluosog a masarnwydd lleiaf a
hen fonyn onnen yn nodedig. |
|
| |
|
|
| |
8. Coedwig Coedwig Gaer Fawr, Powys |
|
| |
|
|
| |
SJ222128
Coed Cadw 29.97 ha (74.06 erw) |
|
| |
|
|
| |
Lleolir Gaer Fawr ar fynydd
amlwg tua 1 km i’r gogledd o Gegidfa ger y Trallwng. Mae
llethrau’r mynydd yn cynnal coedlan led naturiol, ac mae’r
rhan fwyaf ohoni yn hynafol, gyda chyfansoddiad o
rywogaethau amrywiol gan gynnwys ardaloedd a oruchafir gan
goedlan o goed derw digoes, ardaloedd a oruchafir gan onnen
a sycamorwydden a lleiniau bychain o goedlannau gwlyb gyda
gwern i’w gweld yn aml. |
|
| |
|
|
| |
9. Coed Dolyronnen, Powys |
|
| |
|
|
| |
SH830000 Coed Cadw 3.12 ha (7.71 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae
Coed Dolyronnen sy’n nodweddiadol o’r ardal, yn goed deri yn
bennaf ac ar lethrau serth dyffryn cul y mae nant yn llifo’n
gyflym drwyddo. Mae rhai olion o waith cerrig a gwaith
haearn i’w gweld o hyd sy’n gysylltiedig â bwthyn bach sy’n
nodi fod y nant ar un adeg wedi ei defnyddio fel ffynhonnell
pŵer i weithdai bychain yn gyfochrog â’r goedwig. |
|
| |
|
|
| |
(Brig) |
|
| |
|
|
|
|
10. Coed y Graig, Powys |
|
| |
|
|
| |
SO117925
Coed Cadw 6.29 ha (15.54 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Coed y Graig yn un o
goedlannau cymunedol ‘Coedwigoedd ar Garreg eich Drws’ y
Mileniwm yr Ymddiriedolaeth Coedlannau. Fe’i crëwyd o floc o
dri o gaeau o borfa barhaol wedi ei gwella a brynwyd gan yr
Ymddiriedolaeth ym 1998, ac a blannwyd yn bennaf gyda choed
llydanddail brodorol ym 1999. Mae’r fynedfa oddi ar ffordd
gul (Lonesome Lane) tua 1 milltir o ganol y Drenewydd.
|
|
| |
|
|
| |
11. Coed Gwernafon, Powys
|
|
| |
|
|
| |
SN926903
Coed Cadw 31.17 ha (77.02 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Coed Gwernafon yn
glwstwr ynysig o wyth bloc o goedlan hynafol ar ochr y
dyffryn o amgylch dyffrynnoedd blaenddyfroedd Afon Trannon
yn union i’r gorllewin o bentref Llawryglyn. Dyma’r mwyaf
o’r pump o flociau hyn sy’n ffurfio SDdGA Coedydd ac ACA
Ewropeaidd Llawr y Glyn – “Grŵp rhyfeddol o goedlannau derw
digoes asidig a leolir ar lethrau’r mynyddoedd o amgylch
blaenddyfroedd Afon Trannon. |
|
| |
|
|
|
|
12. Coed Glaslyn, Powys |
|
| |
|
|
| |
SJ042069
Coed Cadw 11.17 ha (27.6 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Coed Glaslyn yn cynnwys
11.2 ha o goedlan a llaid dwfn ar waelod y dyffryn, a
amgylchynir gan borfa, i’r dwyrain o Langadfan ac i’r
gorllewin o Lanfair Caereinion. Mae’r safle yn disgyn yn
raddol i gyfeiriad y dwyrain. Mae rhannau gorllewinol, uwch
y safle yn cynnal brithwaith o goed deri’r ucheldir
lled-naturiol a standiau trwchus o redyn. Goruchafir y
goedlan yma gan goed derw digoes aeddfed mawr gyda digon o
le rhyngddynt gyda phinwydd yr Alban a bedw aeddfed
gwasgaredig (bedwen gyffredin a bedwen arian). Mae bedw yn
goruchafu yn lleol i’r gogledd. Mae bedw iau a helyg llwyd
yn lluosog yn lleol /yn goruchafu trwy bob rhan o’r ardal. |
|
| |
|
|
| |
13.
Coed
Dolyronnen, Powys |
|
| |
|
|
| |
SH830000
Coed Cadw 3.12 ha (7.71 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Coed Dolyronnen sy’n
nodweddiadol o’r ardal, yn goed deri yn bennaf ac ar lethrau
serth dyffryn cul sydd â nant yn llifo’n gyflym drwyddo. Mae
rhai darnau o waith cerrig a gwaith haearn yn gysylltiedig â
bwthyn bach yn nodi fod y nant ar un adeg wedi ei defnyddio
fel ffynhonnell bŵer i weithdai bychain wrth y goedwig. |
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
(Brig) |
|
| |
|
|
| |
14
Bron y
Buckley, Powys |
|
| |
|
|
| |
SJ220079
Coed Cadw 4.94 ha (12.21 erw) |
|
| |
|
|
| |
Mae Bron y Buckley yn
goedlan hynafol 4.9 ha ar lethr sy’n wynebu’r de yn union
ger y Trallwng, (mae stad o dai ar hyd y ffin ddeheuol).
Mae’r goedlan yn ffurfio cefndir hynod o weladwy i’r dref ac
fe’i gwarchodir gan Orchymyn Diogelu Coed yr
Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. |
|
| |
|
|
| |
15.
Coed
Pendugwm |
|
| |
|
|
| |
SJ103142
Cymdeithas Byd Natur Maldwyn 3.2ha |
|
| |
|
|
| |
Er mai dim ond 3.2 ha o ran
maint yw’r warchodfa fe’i dynodwyd fel Safle o Ddiddordeb
Gwyddonol Arbennig (SDdGA) i gydnabod y coed, y planhigion
a’r anifeiliaid arbennig sy’n byw yno. |
|
| |
|
|
| |
16.
Cors Dyfi
|
|
| |
|
|
| |
SN701985
Cymdeithas Byd Natur Maldwyn |
|
| |
|
|
| |
Ym 1966
plannwyd y caeau gyda choed sbriws Sitka; 30 mlynedd yn
ddiweddarach torrwyd y coed ac mae gwaith aildyfu wedi bod
yn digwydd o dan reolaeth Cymdeithas Byd Natur Maldwyn.
Heddiw mae gan y warchodfa gynefinoedd o gors, mign, coedlan
wlyb ac eithin. Mae’r coed wedi dychwelyd – helyg, y fedwen
arian a choed gwern yn bennaf, ac mae bywyd gwyllt yn
cynyddu. |
|
| |
|
|
| |
17.
Cwm y
Wydden |
|
| |
|
|
| |
SJ 159016
Cymdeithas Byd Natur Maldwyn |
|
| |
|
|
| |
Eco-system ffantastig o
ardaloedd tywyll llaith gyda rhedyn, mwsogl a chen cerrig a
llennyrch agored achlysurol yn llawn o flodau’r gwanwyn. |
|
| |
|
|
|
|
18.
Red House
|
|
| |
|
|
| |
SO170968
Cymdeithas Byd Natur Maldwyn |
|
| |
|
|
| |
Dôl fawr
wlyb, mign o gyrs, pwll a choedlan wlyb sy’n ffurfio’r rhan
fwyaf o’r warchodfa hon ar lan yr afon. |
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
|
|
| |
(Brig) |
|
| |
|
|
|
|
|
|