Sir Fynwy  
     
 

- Lleoliad Coedlannau

Ewch â’r llygoden dros y lleoliadau i ddarganfod eu henwau. Cliciwch ar y lleoliadau am fwy o fanylion.

 
     
  60. Coppice Mawr Wood 61. Cuckoo Wood 62. Bargain Wood 63. Lower Wyncliffe Wood 64. Wentwood Lodge 65. Whitemill Common and Roughets Wood, Monmouthshire 66. Brockweir, Gloucestershire, Wye Valley 67. Cadora Woods - Redbrook, St Briavels 68. Highbury Fields 69. Beaulieu Wood, Monmouthshire 70. Priory Grove, Monmouth 71. Little Doward Woods 72. Quarry Wood, Herefordshire 73. Symonds Yat West 74. Coed Gwraig 75. Great Triley Wood, Monmouthshire 76. Croes Robert Reserve 77. Branches Fork Meadow 79. Coed Meyric Moel 80. Graig Wood 81. Hardwick Wood 82. Kitty's Orchard 83. Margaret's Wood 84. Penallt Old Church Wood 85. Priory Wood SSSI 86. Prisk Wood SSSI 87. Ringland Wood 88. Silent Valley 89. Springdale Farm 90. Strawberry Cottage Wood  
     
 

Fe gydnabyddir Dyffryn Gwy fel un o’r coetiroedd prydferthaf ym Mhrydain, gyda’i 4,300 o hectarau sy’n gorwedd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Arbennig. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn llydanddail gyda chymysgedd o dderw a ffawydd aeddfed yn ogystal â rhywogaethau eraill o onnen, ceirios a phisgwydden deilen fach. Yn ystod Ebrill ar ddechrau Mai mae yna carped o glychau’r gog yn addurno’r coedwigoedd yma yn ogystal â rhywogaethau eraill fel dilwydd, blodyn y gwynt a garlleg gwyllt. Mae Llwybr hanesyddol Dyffryn Gwy yn mynd o’r gogledd i’r de drwy Dyndyrn ac ar hyd darnau hir o goetiroedd y Comisiwn Coedwigaeth i fyny at Drefynwy. Rydym wedi adfer sawl un o’r golygfannau o Wyndcliffe Uchaf ger Cas-gwent, i Goedwig Cuckoo i’r gogledd o Laneuddogwy sydd yn cynnig golygfeydd trawiadol ar draws Dyffryn Gwy isaf gyda Môr Hafren a’r hen Bont Hafren yn gefnlen.

Mynediad trwy:


60. Hamdden - Coed Copi Mawr - ST515932

61. Hamdden - Coedwig y Gog - SO 528 053

62. Hamdden - Coed Y Fargen - SO525030

63. Hamdden - Coed Tarren Gwy Isaf - ST527973
 
     
  64. Hamdden - Coed Gwent  
     
  ST 418 946 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coetir conifferau poblogaidd gyda golygfeydd da ar draws Moryd Hafren.  
     
  65. Comin Comin Whitemill a Choedwig Roughets  
     
  ST483946, Coed Cadw 5.6 ha (13.84 erw)  
     
  Lleolir Comin Whitemill a Choedwig Roughets ger pentref Mynydd Bach ac mae’n amgylchynu Gwaith Trin Dŵr Whitemill. Mae Nant Mounton yn llifo drwy’r safle, gan wahanu Coedwig Roughets i’r gogledd oddi wrth Gomin Whitemill i’r de. Cynhwysir Coedwig Roughets ar Lechres y Coedlannau Hynafol ond fe’i hail-blannwyd i raddau helaeth gyda llarwydd a phoplys yng nghanol yr 20fed ganrif. Ar yr un adeg plannwyd Comin Whitemill a oedd mae’n debyg yn cefnogi cynefin agored ar y pryd, gyda sbriws, llarwydd a rhywfaint llai o ffawydd.  
     
  66. Brockweir, Swydd Gaerloyw, Dyffryn Gwy    
     
  SO540018 Coed Cadw 0.13 ha (0.32 erw)  
     
  Plannwyd y goedlan gan blant o Ysgol Gynradd Brockweir ym 1984. Plannwyd tua chant o goed gan gynnwys ynn, deri coesynnog, ceirios gwyllt, pisgwydd deilenfach (o darddiad anhysbys) a masarnwydd. Mae mwy o goed a llwyni wedi datblygu ar y safle drwy aildyfiant naturiol ac mae’r berthlys bellach yn un o nodweddion y tirlun lleol.  
     
  67. Cadora Woods, - Redbrook, St. Briavels   
     
  SO536076 Coed Cadw 111.7 ha (276.01 erw)  
     
  Mae mynediad cyhoeddus yn bosibl o faes parcio a ddarperir yng Nghoedwig Bigsweir, ac o lwybrau a thraciau sy’n arwain drwy goedwigoedd Cadora ac o bentref Redbrook. Mae rhodfa lydan yn mynd drwy ganol coedwig Bigsweir ac mae adran fer o drac newydd a adeiladwyd yn 2003 yn ei chysylltu â rhwydwaith traciau Coedwigoedd Cadora.  
     
  68. Caeau Caeau Highbury  
     
  SO535081 Coed Cadw 23.48 ha (58.02 erw)  
     
  Nid oes unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus diffiniol ar y tir sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth, ond mae mynediad yn bosibl o Coxbury Lane, Llwybr Clawdd Offa a Choedwigoedd Cadora. Mae Caeau Highbury yn cynnwys deg o gaeau ar fannau uchaf torlannau dwyreiniol Dyffryn Gwy, wedi eu lleoli yn union i’r dwyrain o eiddo’r Ymddiriedolaeth, sef Coedwig Cadora a Causeway Grove ac yn union i’r gorllewin o Warchodfa Natur Genedlaethol Coedwigoedd Highbury. Mae Coxbury Lane yn rhedeg yn union drwy’r safle gyda chloddiau sy’n cefnogi coedlan led-naturiol hynafol. Mae nifer fawr o goed aeddfed nodedig, y mae dros 170 ohonynt wedi eu tagio yn unigol ac sy’n cynnwys llawer o bisgwydd deilenfechan hynafol wedi eu bondocio i’w gweld ar hyd argloddiau Coxbury Lane ac ar ymylon y caeau.  
     
 

(Brig)

 
     
  69. Coedwig Coedwig Beaulieu, Sir Fynwy  
     
  SO5281281 Coed Cadw 6.62 ha (41.07 erw)  
     
  Mae Coedwig Beaulieu yn cynnwys 16.6 ha o goedlan hynafol a choedlan hynafol wedi ei hail-blannu. Nodwyd y rhain fel dwy o nodweddion allweddol y safle. Ar hyd yr esgair i ddwyrain y safle, mae gweddillion coedlan led-naturiol aeddfed yn cynnwys ffawydd a deri aeddfed, sydd wedi deillio i raddau helaeth o fonion mawr wedi eu tocio (gydag un ffawydden aeddfed wedi ei bondocio). Nodwyd mynediad cyhoeddus fel y trydydd nodwedd allweddol. Mae nifer o lwybrau cyhoeddus a goddefol yn croesi neu yn ffinio â’r safle ac mae mynediad o dir Menter Coedwigaeth i’r gogledd, eiddo yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, The Kymin, i’r de ddwyrain a Llwybr Clawdd Offa sy’n rhedeg ar hyd ymyl de-orllewinol y goedwig.  
     
  70. Priory Grove  
     
  SO526139 Coed Cadw 31.79 ha (78.55 erw)  
     
  Mae Priory Grove ar esgair sy’n rhedeg o’r gogledd i’r dwyrain, yn gyfochrog ag Afon Gwy, ynghyd â dyffryn tawel gyda nant yn rhedeg drwyddo y tu ôl i’r mynydd. Mae’n ffurfio rhan o dirlun eithriadol sy’n gwbl amlwg o’r A40 a’r A4236. Mae mynediad i gerddwyr i’r safle drwy rwydwaith o lwybrau cyhoeddus a goddefol y gellir eu cyrraedd o’r A4236, ond yn haws o Hadnock Road, ffordd gyhoeddus fach rhwng y goedwig a’r afon.  
     
  71. Coedwigoedd Little Doward  
     
  SO538160 Coed Cadw 82.18 ha (203.07 erw)  
     
  Mae Little Doward, sy’n rhan o’r casgliad sy’n bwysig yn genedlaethol o goedlannau Dyffryn Gwy yn nodwedd amlwg yn y tirlun lleol sydd o gymeriad eithriadol. Mae daeareg amrywiol a rheolaeth hanesyddol y safle wedi arwain at ystod eang o fathau o goedlannau a chynefinoedd, gyda rhai o bosibl yn unigryw i Little Doward. Mae Little Doward yn denu nifer fawr o ymwelwyr ac mae yma rwydwaith helaeth o rodfeydd a llwybrau gan gynnwys y llwybr troed pellter hir, Llwybr Dyffryn Gwy, sy’n rhedeg ar hyd glan yr afon.  
     
  72. Coedwig y Chwarel, Swydd Henffordd  
     
  SO545163 Coed Cadw 1.94 ha (4.79 erw)  
     
  Mae Coedwig y Chwarel yn cynnwys 2ha o goedlan lled-naturiol (hynafol yn bennaf) mewn lle amlwg sy’n edrych dros bentref bychan Little Doward. Mae’r goedlan yn cael ei gwasanaethu’n dda gan y llwybrau cyhoeddus cyfagos. Mae rhodfa yn rhedeg drwy’r goedlan sy’n cysylltu â rhwydwaith o lwybrau lleol yn y ddau ben.  
     
  73. Symonds Yat West  
     
  SO556157 Coed Cadw 5.57 ha (13.76 erw)  
     
  Mae Symonds Yat West yn cynnwys 5.6ha o goedlan lled-naturiol (coedlan lled-naturiol hynafol yn bennaf) o fewn Coedlannau helaeth Rhan Uchaf Dyffryn Gwy sydd o bwysigrwydd arbennig o safbwynt y tirlun ac o ran gwarchod natur (AHNE, SDdGA ac ACA dynodedig).  
     
  74. Coed Gwraig  
     
  SO409155 Coed Cadw 3.98 ha (9.83 erw)  
     
  Mae Coed Gwraig yn goedlan led-naturiol hynafol a leolir ar lethr sy’n wynebu’r gorllewin. Cafodd yr ardal ei theneuo yn helaeth yn y gorffennol ac mae yma gymysgedd nodweddiadol o goed aeddfed gydag is-haen cyfoethog. Goruchafir ar y canopi gan goed deri ac mae hefyd yn cynnwys pisgwydd deilenfach, sycamorwydden, coed ceirios, ynn, llwyfen, bedw, cerddinen wyllt ac ywen. Mae ywen yn arbennig o amlwg ar hyd y traciau neu’r ffosydd sy’n croesi’r safle. Mae’r is-haen yn gymysgedd o gyll, drain, pisgwydd, ysgawen, celyn, mieri a deri ac ynn sydd wedi ail-dyfu ac atgenhedlu.  
     
  75. Coedwig Great Triley  
     
  SO311181 Coed Cadw 6.31 ha (15.59 erw)  
     
  Mae Coedwig Great Triley yn goedwig ar orlifdir sy’n cael ei gorlifo o dro i dro gan ddwy fforch nant Afon Gafenni sy’n mynd o’r de i’r gogledd ar draws y safle. Mae’r amodau llaith a grewyd gan y gorlifo yn darparu cynefin delfrydol ar gyfer rhywogaethau sy’n perthyn i goedlan wlyb fel melyn y gors, cegid Mynwy, mapgoll a hesg. Oherwydd prinder lle parcio diogel, anhawster i fynd i’r safle a’r amodau gwlyb dan draed nid ystyrir bod y safle yn addas i hyrwyddo mynediad cyhoeddus. Caniateir mynediad, ond dylai’r ymwelwyr fod yn ymwybodol fod amodau o dan draed yn anodd.  
     
  76 Gwarchodfa Croes Robert     
     
  SO 475 060 Ymddiriedolaeth Natur Gwent  
     
  Mae Coedwig Croes Robert yn 14 hectar o goedlan prysgwydd lled naturiol hynafol ar ffin gogleddol llwyfandir Trelech. Lleolir y warchodfa yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy ac fe’i hysbyswyd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ym 1981. Mae ailgyflwyno prysgoedio a llosgi golosg yn rhoi cyfle i weld coedlan lydanddail yn cael ei rheoli’n draddodiadol. Mae agor canopi’r goedlan ynghyd â nodweddion presennol y cynefin yn hybu twf fflora a ffawna cyfoethog.  
     
  77. Dôl Branches Fork   
     
  SO 269016 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 2ha. Dim gwefan benodol.  
     
  Coedlan o goed deri a prysg yn ymledu. Glaswelltir llaith gyda thamaid y cythraul. Mynediad anffurfiol o lwybr seiclo cyfagos.  
     
 

(Brig)

 
     
  79. Coed Meyric Moel   
     
  ST 272940 Ymddiriedolaeth Natur Gwent Llai na 1 ha.  
     
  Dim gwefan benodol.
Parciwch ger y stâd yn
ST 271942.
Gwarchodfa drefol yng Nghwmbran. Coedlan gyda dôl fechan, prysg a meiri. Mae’n dda i ieir bach yr haf, rhai adar a llawer o bryfed. Parciwch ger ffordd y stad yn ST 271942.
 
 
     
  80. Coedwig y Graig   
     
  SO507095 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 1ha.  
     
  Ardal fechan o goedlan frodorol sy’n rhan o goedlan llawer mwy sy’n edrych dros Drefynwy a’r Mynydd Du. Parcio yn gyfyngedig iawn.  
     
  81. Coed Hardwick    
     
  ST 455895 Ymddiriedolaeth Natur Gwent Llai na 1 ha  
     
  Gweddill coedwig gollddail gymysg gyda fflora cyfoethog o degeiriannau sy’n hoff o galch a phlanhigion eraill. Parcio ar ymyl y ffordd.  
     
  82. Perllan Kitty     
     
  SO 401046 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 4ha.  
     
  Coedlan ifanc a glaswelltir wedi ei led-wella. Parcio wrth ymyl y ffordd.  
     
  83. Coedwig Margaret          
     
  SO 525070 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 2ha.   
     
  Coedwig o goed collddail gydag amrywiaeth o goed aeddfed sy’n dda ar gyfer ffyngau yn yr hydref ac i adar. Parcio yn gyfyngedig iawn ar y ffordd i Whitebrook, yn agos at dafarn y Crown. Cerddwch i fyny’r stepiau mewn cae llawn prysg ger y dafarn.  
     
  84. Penallt Old Church Wood   
     
  SO 524105 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 4ha.  
     
  Deg erw o goedlan collddail gyda chennin Pedr gwyllt a mwsglys. Mae’r adar yma yn cynnwys Telor y Cnau, Corhedydd y Coed, Dringwr Bach, Gwybedog Brith a Gwalch Glas. Mae allfrigiadau o globyniadau (a adwaenir yn lleol fel ‘puddingstone’ neu ‘jack stone’) wedi eu chwarela i wneud cerrig seidr. Maes parcio bach y tu allan i’r eglwys.  
     
  85. SDdGA Coed Priordy       
     
  SO 352058 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 5ha.  
     
  Mae hon yn goedlan lydanddail amrywiol gyda lliaws o goed ceirios er bod y fflora ar y llawr yn gyfyngedig. Mae’n gyfoethog o ran adar y goedlan gyda nifer o rywogaethau yma fel Gwybedog Brith, a Chnocell Fraith Fwyaf sy’n defnyddio’r blychau nythu. Mae Gylfinbraff i’w gweld yn y coed ac weithiau yn magu yma. I’r gogledd o Afon Wysg ger Chain Bridge. Parcio yn gyfyngedig iawn ym mhen draw’r trac.  
     
  86. SDdGA Coedwig Prisk       
     
  SO 532092 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 6ha.  
     
  Amrywiaeth mawr o goed a llwyni yma yn cynnwys Onnen, Ceirios a llwyfen lydanddail. Mae’r adar yn cynnwys Gwybedog Brith, Gwalch Glas a Chyffylog. Mae’r pryfed a’r ffyngau yn lluosog iawn. Mae hen chwareli cerrig yn darparu safleoedd delfrydol i redyn gan gynnwysi wibredynen. Mae maes parcio oddi ar Lone Lane.  
     
  87. Coedwig Ringland   
     
  ST 352883 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 7ha.  
     
  Mae WING (Grŵp Bywyd Gwyllt yng Nghasnewydd) yn rheoli rhan o goedwig sy’n perthyn i Charter Housing a Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Fe’i lleolir ar boced o graig galchaidd felly mae’r fflora yn ddiddorol gan gynnwys Tegeiriannau Porffor Cynnar. Mae nythfa frain fawr yn y goedwig.  
     
  88. Y Dyffryn Tawel       
     
  SO 187062 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 22ha.  
     
  Mae’r goedwig yn cynnwys ffawydd aeddfed yn bennaf gyda deri, gwern a phrysg. Mae rhuthrau dŵr yn cefnogi fflora cyfoethog a diddorol tra bo’r adar sy’n nythu yma yn cynnwys Tingoch, a Gwybedog Brith. Mae’r hen domennydd mwyngloddio yn dangos enghreifftiau o gen cerrig, mwsoglau a gweiriau yn ymsefydlu yma.

Anela Partneriaeth Addysg Silent Valley, a reolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent at ddarparu addysg amgylcheddol i bob oed a gallu. Defnyddir y warchodfa fel ystafell ddosbarth awyr agored, am ddim i ysgolion lleol, i astudio systemau naturiol ac i ddysgu sgiliau rheoli tir. Mae maes parcio yn SO 186060

 
     
  89. Fferm Springdale  
     
  ST409995 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 47ha.  
     
  Un o’r ardaloedd mwyaf o laswelltir heb ei wella yng Ngwent. Porfeydd sy’n gyfoethog mewn rhywogaethau mewn sefyllfaoedd gwlyb a sych. Gwrychoedd sydd wedi eu datblygu’n dda. Coedlan lydanddail led-naturiol ger nant. Fe’i caffaelwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn 2001. Parcio yn gyfyngedig iawn – i’w ymestyn.   
 

 

 
 

(Brig)

 
     
  90. Coedwig Strawberry Cottage   
     
  SO 313216 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 6ha.  
     
 

Coedwig o dderi digoes a chyll. Mae’r planhigion diddorol yma yn cynnwys clychlys danadl, a choedfrwynen ar hyd y llwybr march tra mewn rhuthr dŵr ceir tormaen melyn a hesgen ysbigog. Mae’r adar sydd yma yn cynnwys Tingoch, Gwybedog Brith a Chnocell Fraith Leiaf. Parciwch ger y bompren yn SO 3122215

 
     
  91. Planhigfa’r Wern  
     
  SO486087 Ymddiriedolaeth Natur Gwent 4ha.  
     
  Llethr coediog i’r de ollewin o Drefynwy gydag ardaloedd o redyn a moch daear. Parcio ar ochr y ffordd wrth y gyffordd.  
     
 
 
     
  Contact Information  
     
  Ymddiriedolaeth Natur Gwent  
     
  Coed Cadw  
     
  Hamdden - Ardal Goedwig Dyffryn Gwy  
     
     
 

(Brig)

 
     
     

 

Coed Lleol is hosted by the Small Woods Association in partnership with the Forestry Commission Wales and the Countryside Council for Wales

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Web design by Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net