Sir Faesyfed, Canolbarth Powys  
     
 

- Lleoliad Coedlannau

Ewch â’r llygoden dros y lleoliadau i ddarganfod eu henwau. Cliciwch ar y lleoliadau am fwy o fanylion.

 
     
  19. Llandrindod Woodland Walk 20. Sila Wood, Powys 21. Llanhaylow Wood, Powys 22. Hutton Copse, Powys 23. Granner Wood, Powys 24. Coed y Ciliau, Powys 25. Coed Dolifor, Powys 26. Cilcenni Dingle, Powys 27. Bailey Einon 28. Cefn Cenarth 29. Cwmbyddog 30. Sideland 31. Radnor Wood 32. Smatcher Wood 33. Warren Wood, Radnor 34. Burfa Wood 35. Cwm Broadwell 36. Nash Wood 37. Coed Sarnau  
     
  19. Tro drwy’r Goedlan Llandrindod  
     
  SO 061609 BBC – Troeon Canolbarth Cymru  
     
  Ewch am dro cylchol 4.5 milltir o amgylch Llandrindod, ar hyd llwybr sydd newydd ei agor drwy’r goedlan gyda golygfeydd hyfryd ar draws cefn gwlad agored.  
     
  20. Coedwig Silia, Powys  
     
  SO305640 Coed Cadw 3.4 ha (8.4 erw)  
     
  Mae Coedwig Silia yn goedwig fechan ar lethr cymhedrol, sy’n wynebu tua’r de rhyw hanner milltir o ganol Llanandras. Yr oedd yn goedlan lled-naturiol, hynafol ond cafodd ei throi yn goedlan addurniadol tua 1860 ac yna ei chynnwys o fewn tir Silia House. Plannwyd llawer o goed conwydd enghreifftiol yma yn y cyfnod o 1860 i 1896 ac mae rhai yn dal i oroesi a bellach maent ymysg yr enghreifftiau hynaf a mwyaf yng Nghymru.  
     
  21. Coedwig  Llanhaylow, Powys  
     
  SO226565 Coed Cadw 11.8 ha (29.16 erw)  
     
  Mae Coedwig Llanhaylow yn safle oedd yn perthyn gynt i’r Comisiwn Coedwigaeth a blannwyd gyda chonwydd Douglas, llarwydd Siapan, Hemlog y Gorllewin a phoplys tua 1955. Nodwyd y safle fel safle coedlan hynafol sydd wedi ei phlannu.  
     
  22. Hutton Copse, Powys Perthlys Hutton  
     
  SO213607 Coed Cadw 0.38 ha (0.94 erw)  
     
  Lleolir y safle ar gyrion tref New Radnor ar un o’r prif lwybrau sy’n rhoi mynediad i’r dref. Mae’r safle yn bwysig o ran penderfynu ar safiad y dref, sy’n cynnwys golygfeydd deniadol ar hyd dyffryn yr afon ac mae yn gyfleuster lleol, gwerthfawr. Bydd yr ardaloedd plannu coed yn cael eu rheoli i ganitáu i ychydig o goed ddatblygu i aeddfedrwydd.  
     
  23. Coedwig  Granner, Powys    
     
  SO270626 Coed Cadw 9.68 ha (23.92 erw)  
     
  Mae Coedwig Granner wedi ei lleoli yn amlwg ar fryn sy’n edrych dros bentref Evenjobb. Mae’r goedwig yn safle coedlan hynafol a ailblannwyd gyda choed deri digoes a chymysgedd o goed conwydd yn yr 1950au. Fe’i hamgylchynir ar bob ochr gan borfa wedi ei gwella. Mae deri digoes i’w gweld ar lethrau is y goedwig, tra mae ffynidwydd Douglas, ffynidwydd urddasol a llarwydd Siapan wedi eu plannu ymhellach i fyny’r llethr.  
     
 

(Brig)

 
     
  24. Coed y Ciliau, Powys  
     
  SN947544 Coed Cadw 9.42 ha (23.28 erw)  
     
  Mae coed deri’r ucheldir a oruchafir gan goed deri digoes yn tyfu ar briddoedd asidig tenau ar lethr serth sy’n wynebu’r gorllewin. Mae’r goedwig hon yn tyfu ar ran ganolog esgair sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de sy’n ffurfio nodwedd amlwg yn y tirlun sy’n edrych dros ddyffryn Dulas. Dyma’r unig ddarn sylweddol o goedlan frodorol sydd ar ôl ar yr esgair hon.  
     
  25. Coed Dolifor, Powys  
     
  SN960653 Coed Cadw 11.54 ha (28.52 erw)  
     
  Coedlan sy’n wynebu’r gogledd ar y llechwedd uwchben Afon Gwy. Roedd ar un adeg yn dir pori corsiog ac yn goedlan o goed derw, bedw a gwern agored ac a oedd yn cael ei phori, ond a ffensiwyd ac a blannwyd ym 1974 gydag ystod helaeth o rywogaethau heb fod yn frodorol gyda’r nod o greu arboretwm.  
     
  26. Cilcenni Dingle, Powys Dingl Cilcenni, Powys  
     
  SO178412 Coed Cadw 17.18 ha (42.45 erw)  
     
  Mae’r Dingl, gan gynnwys yr holl ardal sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Coedlannau wedi ei rhestru fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig fel un o’r enghreifftiau gorau o safle gyda rhywogaethau cyfoethog a lled-naturiol o blith y coedlannau cymysg ffrwythlon llaith hyn. Ceir fflora amrywiol ar y llawr sy’n nodweddiadol o goedlan hynafol a rhai rhywogaethau anghyffredin fel cwlwm cariad.  
     
  27. Bailey Einon  
     
  SO 083 613 Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed  
     
  Dangosir y safle fel coedlan ar fap y Degwm 1840, gyda pherllan fechan ger y giât mochyn. Rheolir y goedlan fel cyfuniad o goedwig uchel a pherthlys gyda choed tal. Mae llwybr byrddau helaeth yn ymestyn dros hyd y warchodfa. Mae rheolaeth barhaus yn cynnwys prysgoedio rhannau bychain mewn cylchdro yn ystod y gaeaf.  
     
  28.  Cefn Cenarth  
     
  SIN 967 763 Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed  
     
  Prynwyd y goedwig gan yr Ymddiriedolaeth ym 1973 ac mae’n rhan o lain llawer mwy o goedlan sy’n nodweddiadol o ucheldiroedd y rhan hon o ganolbarth Cymru. Er ei bod wedi ei dangos ar fap Degwm 1939 o Sant Harmon mae’n eglur fod adrannau mawr wedi eu clirio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.  
     
  29.  Cwmbyddog   
     
  SO 216448 Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed  
     
  Mae’r goedlan yn hynod o bwysig oherwydd ei choed deri hynafol sydd wedi eu bon-docio. Ystyrir bod y rhain hyd at 450 o flynyddoedd oed ac maent ymysg y coed hynaf yn Sir Faesyfed. Mae gan y fwyaf gwmpas o dros 6.3 metr. Roedd coed wedi eu bôn-docio yn cael eu ‘cynaeafu’ yn gynaladwy ar un adeg i gael eu coed drwy dorri canghennau ar uchder lle na fyddai anifeiliaid oedd yn pori yn gallu estyn atynt.  
     
 

(Brig)

 
     
  30. Sideland  
     
  SO 103 638 Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed  
     
  Mae gan y goedwig gymysgedd amrywiol o goed. Ynn sy’n goruchafu gyda derwen goesynnog, bedwen gyffredin a chriafol i gyd i’w gweld yn aml. Yn y gorffennol roedd llwyfenni llydanddail yn amlwg iawn gyda llawer yn goroesi fel coed bach iau. Mae llwyfenni hŷn yn parhau fel coed marw neu rai sy’n pydru, ac maent yn bwysig iawn i fywyd gwyllt yn arbennig infertebratau.  
     
  31. Hamdden - Coedwig Maesyfed  
     
  SO188683 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coedwig gonifferaidd yw Coedwig Maesyfed yn bennaf, ac mae’n ymestyn dros tua 1500 hectar. Gellir cyrchu at y goedwig yn hwylus o’r priffyrdd. Mae gwaelod y dyffryn yn fan cysgodol gydag ardaloedd o goed llydanddail. Mynediad trwy

Ednol - SO235642

Coedwig y Fforest - SO238678

 
     
  32. Hamdden - Smatcher  
     
  SO216604 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Man parcio ar y ffordd mynediad i fynedfa’r goedwig. Yn agos i bentref Maesyfed.  
     
  33. Hamdden - Coedwig Warren  
     
  SO187598 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coetir conifferaidd deniadol, gyda hen lwybrau o oes Fictoria a rhaeadr hardd.  
     
  34. Hamdden - Coedwig Burfa  
     
  SO279608 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Mae Coedwig Maesyfed wedi ei henwi ar ôl coedwig helwriaethol ganoloesol wreiddiol ar y safle. Mae’r goedwig yn cynnwys amrywiaeth o goetiroedd, o goedwigoedd conifferaidd a leolir yn uchel ym mynyddoedd Maesyfed i goetiroedd bach llydanddail wrth y ffin â Lloegr.  
     
  35. Cwm Broadwell  
     
  S0205618 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Dim Maes Parcio swyddogol, ond digon o fannau parcio y tu fewn i’r fynedfa i’r goedwig. Yn agos i bentref Faesyfed.  
     
  36. Coedwig Nash  
     
  SO312632 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coetir deniadol wedi ei deneuo’n dda, sy’n cynnwys coed conifferaidd a choed llydanddail. Ar gyrion tref Llanandras (Presteigne).  
     
  37. Coed Sarnau  
     
  SO054714 Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Mae Coed Sarnau yn cynnwys coetiroedd o gonifferau cymysg sydd wedi eu lleoli o amgylch pentref tlws Abaty Cwmhir sydd yn enwog am ei fynachlog Sistersaidd. Mae’r goedwig wedi ei chris-groesi gan lwybrau a llwybrau ceffylau.  
     
 
 
     
  Mewn partneriaeth gyda:  
     
  BBC - Mid Wales Walks  
     
  Comisiwn Coedwigaeth  
     
  Coed Cadw    
     
  Ymddiriedolaeth Natur Maesyfed  
     
     
 

(Brig)

 
     
     
     

 

Coed Lleol is hosted by the Small Woods Association in partnership with the Forestry Commission Wales and the Countryside Council for Wales

 
       
    Logo of the Forestry Commission       Logo of the Small Woods Association      Logo of the Countryside Council for Wales      Logo of the Welsh Assembly Government
       

© Coed Lleol 2005

Web design by Itsnoprob.co.uk

Extended Web development by CookieOnline.net