
Ar 31 Mawrth cyfarfu dros hanner cant o gynrychiolwyr grwpiau coedlannau cymunedol, perchnogion coedlannau, y Comisiwn Coedwigaeth, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau, gweithwyr coed, arbenigwyr ar grefftau’r gwylltir, arweinwyr Ysgolion Coedwig, ffermwyr a thrigolion lleol i drafod rhan coedlannau Cymru mewn economi leol.
Yn hanesyddol mae coedlannau wedi chwarae rhan hanfodol yn y rhan fwyaf o rannau o’n diwylliant: cysgod, trafnidiaeth, tanwydd, tŵls a bwyd. Mae cymdeithas fodern wedi dod yn fwyfwy dibynnol ar gynhyrchion petro-gemegol fel plastig ac yn ddibynnol ar danwyddau ffosil i gludo nwyddau rhad dros y byd. Mae hyn wedi cwtogi ar yr angen am weithwyr medrus lleol i wneud cynhyrchion coedlannau. Ond mae cost olew wedi codi saith gwaith yn y chwe blynedd diwethaf a disgwylir i filiau ynni domestig gynyddu’n aruthrol (The Guardian 2008). Mae’r tueddiadau economaidd cyfredol hyn yn pwyntio tuag at angen brys i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd lleol a bydd ein coedlannau yn chwarae rhan bwysig yn hyn.
Mae’n bwysig na chollir y sgiliau a’r crefftau coedlannau sy’n angenrheidiol i gefnogi cymunedau lleol. Ar draws Cymru mae llawer o unigolion a grwpiau sy’n cadw’r sgiliau hyn yn fyw drwy weithio yn eu coedwigoedd lleol, gan ymwneud â’r gymuned a darparu hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i wirfoddoli. I ddarganfod mwy am rai o’ch grwpiau a’ch cynlluniau lleol ewch i’n tudalen Grwpiau Coedlannau Lleol.
Rhoddodd tri o brosiectau coedlannau o Dde Cymru gyflwyniadau yn y digwyddiad: Coleg Coppicewood, Coed Marros a Growing Heart Coop. Eglurodd Willow a Kate o Growing Heart Co-op a drefnodd y digwyddiad, sut mae eu prosiect coedlannau yn anelu at baratoi ar gyfer amser ar ôl yr olew brig (pan fo’r cyflen wad o olew wedi cyrraedd ei frig ac yn mynd yn fwy a mwy anodd a drud i’w dynnu o’r ddaear). Maent yn credu y bydd creu cymunedau lleol cryf yn seiliedig ar ddefnyddio adnoddau lleol yn ein helpu i ddarparu ar gyfer ein hanghenion yn wyneb prinderau byd-eang o danwydd ac o adnoddau eraill. Siaradodd Nick Barnes o Goleg Coppicewood am eu gwaith i drosglwyddo’r grefft draddodiadol o brysgoedio. Siaradodd Caz Ward am y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghoed Marros ac am y dull permaddiwylliant o reoli coedlannau. Mae Caz wedi sefydlu Ysgol Goedwig ar y safle sy’n rhoi cyfle gwerthfawr i blant gael eu cynnwys yn y prosiect.
“Mae gwerth enfawr mewn dangos prosiectau pobl wahanol fel hyn, oherwydd gall roi syniadau da i’r gweddill ohonom, ac mae’n gyfle i ofyn cwestiynau gwirioneddol berthnasol. I mi mae clywed yn fanwl am waith pobl eraill yn un o’r pethau gorau am gyfarfod fel hyn” meddai Chloe Griffiths o Greener Wales.
Un o ganlyniadau’r diwrnod rhyngweithio hwn oedd cychwyn ar a hyrwyddo rhwydweithio anffurfiol a rhannu sgiliau i bobl yn ymwneud â grwpiau a phrosiectau coedlannau yn Ne Orllewin Cymru. O wybod pryd mae gan eich cymydog goed dros ben i’w gwerthu, cael benthyg tractor neu gael barn arbenigwr ynglŷn â phrysgoedio eich coed cyll, mae rhywbeth i’w ennill bob amser o greu cysylltiadau agosach â phobl eraill. Os hoffech gael eich cynnwys yn y rhwydwaith hon, yna cysylltwch â ni.
Felly y tro nesaf y bydd arnoch angen cadair, pyst i’ch gatiau neu ffyn ffa dringo, meddyliwch am eich gweithiwr coed gwyrdd lleol a chefnogwch eich economi leol.
Darllen pellach
Coed Marros www.coedmarros.com
Coppicewood College www.coppicewoodcollege.co.uk
Domestic energy bills expected to soar as cost of oil keeps increasing. Ashley Seager. Guardian t21 Dydd Llun Mehefin 9 2008 .
ForestHarvest : non-timber forest products in Scotland http://www.forestharvest.org.uk/home.htm
Forest Schools www.forestschools.com
Growing Heart Cooperative www.growingheart.co.uk
Permaculture www.permaculture.org.uk
Transition Towns www.transitiontowns.org
Mae coedlannau Ffynnon yn cael eu rheoli
gan Growing Heart Co-op gyda chyllid Cyd Coed
|