Tro yn y Coedwigoedd

Abercorris

Hydref 2007

 

A oes gennych hoff dro mewn coedlan?  Hoffech chi roi sylw iddo ar ein gwefan?

Ysgrifennwch gyda’ch stori am eich ‘Tro yn y Coedwigoedd’

 

Yn y dyffryn uwchlaw pentref Corris mae gwarchodfa natur fechan sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.  Mae’n hawdd ei cholli ar ochr dde yr A487 sy’n anelu at Ddolgellau.  Mae’r goedwig fechan wedi ei chysgodi gan y mynyddoedd cyfagos ac yn gynefin llaith sy’n gyfoethog o ran rhedynnau a mwsogl.  Y coed pennaf a welir yno yw coed deri ac ynn gydag isdyfiant o gyll, criafol, celyn a drain.  Mae gwyddfid yn hongian o’r coed ac mae fioledau, mefus gwyllt a gludlys yn addurno llawr y goedlan.

 

Cyrraedd yno

 

 Mae map gwych o’r lleoliad ar  lwybr seiclo 8 Sustrans, sy’n ddefnyddiol hyd yn oed os nad ydych yn dod ar y beic.  Mae’n daith wych ar gefn beic heibio Canolfan y Dechnoleg Amgen ac ar hyd lonydd gyda golygfeydd gwych o Ddyffryn Dyfi.

 

Mae’n bosibl mynd yno hefyd ar y ffordd o Fachynlleth neu Ddolgellau ar yr A487 ac ar y bws.  Yr orsaf trên agosaf yw Machynlleth.

 

Yng Nghorris ceir llwybr poblogaidd tuag at Ganolfan Grefftau Corris.  Yno mae adran fechan y mae’n rhaid ei cherdded ar hyd y ffordd tuag at Ddolgellau cyn cyrraedd cilfan lle gwelir arwyddion sy’n nodi’r daith drwy’r goedlan.

 

Y daith gerdded drwy’r goedlan

 

Mae’r llwybr yn cael ei gynnal yn dda ac nid oes unrhyw adrannau anodd (un trac sydd yma’n bennaf fel yr un a ddangosir yn y llun ar y dde).  Mae pont hyfryd dros yr afon ac yna mae’r llwybr yn dolennu i fyny drwy weddill y goedwig.  Mae’r llwybr yn dod i ben ar y ffordd gefn lle gallwch droi i’r dde i droi’n ôl tuag at Corris neu droi i’r chwith ac ymestyn eich taith drwy ddilyn y llwybr i fyny i’r mynyddoedd a thrwy’r goedwig tuag at yr hen chwareli llechi.

 

 

Dolennau eraill:

 

Erthygl y BBC am y goedlan

http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/corris/pages/abercorris.shtml

 

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru

http://www.wildlifetrust.org.uk/northwales/Abercorris.html

 

Ffotograffau o Chwarel Lechi Abercorris gan Mine Explorer

http://www.mine-explorer.co.uk/mines/Abercorris_3/Abercorris.asp

 

Yn ôl i’r dudalen gartref...

Photos by Zena Wilmot