"Come and help us design a new woodlnaqd in the foothills of Cadair Idris", says Coed Cadw
Tirgawen Public Meeting, 5.45pm, Tuesday 25th September at Llanegryn Village Hall
Local people in and around Llanegryn are being invited to come along and help the Coed Cadw (the Woodland Trust), the UK’s leading woodland charity, design its new native woodland at Tirgawen, in the Dysynni Valley.
The meeting starts at 5.45pm, on Tuesday 25 September, Llanegryn Village Hall. It includes a visit to, and a short walk around, Tirgawen, for which free transport will be provided. There is NO need to book in advance, but it would help the Trust if those who know they wish to come could let them know in advance by emailing erylroberts@woodland-trust.org.uk or phoning him on (01248) 601154.
If anyone wants to attend the meeting, but is not able to take in the walk, they are welcome to come to the Village Hall at 7pm.
Those coming on the walk should bring stout footwear and, if wet, waterproofs.
The Trust unveiled its plans to create new native woodland at Tirgawen last month, and already many local people have been in touch to make clear their support.
'Dewch i'n helpu ni i ddylunio'n coedlan newydd ni yn nhroedfryniau Cadair Idris', medd Coed CadwCyfarfod Cyhoeddus Tirgawen, 5.45 Nos Fawrth yr 25 Medi, yn Neuadd Bentref Llanegryn Mae pobl Llanegryn a’r cyffiniau yn cael gwahoddiad i ddod i helpu Coed Cadw (the Woodland Trust), prif elusen gwarchod coetir y DU, i ddylunio ei goedlan frodorol newydd yn Nhirgawen yn Nyffryn Dysynni. Mae’r cyfarfod yn dechrau am 5.45 nos Fawrth yr 25 Medi yn Neuadd Bentref Llanegryn. Mae’n cynnwys ymweliad â Thirgawen ynghyd â thaith gerdded fer o gwmpas y safle. Mae Coed Cadw yn darparu trafnidiaeth ar gyfer hyn. Does DIM rhaid neilltuo lle ymlaen llaw, ond fe fuasai’n helpu’r elusen os gallai’r rhai sy’n gwybod ei bod nhw eisiau dod roi gwybod iddyn nhw ymlaen llaw trwy e-bostio erylroberts@woodland-trust.org.uk neu roi caniad iddo ar (01248) 601154. Os ydy rhywrai eisiau mynychu’r cyfarfod, ond yn methu dod ar y daith, mae croeso iddyn nhw ddod i Neuadd Llanegryn am 7 o’r gloch. Mae Coed Cadw’n annog pawb sy’n dod ar y daith i wisgo esgidiau cryf pwrpasol a dillad glaw os bydd y tywydd yn wlyb. Fe gyhoeddodd Coed Cadw ei gynlluniau i greu coetir newydd yn Nhirgawen y mis diwethaf, ac mae llawer o bobl leol wedi cysylltu â’r mudiad yn barod i fynegi eu cefnogaeth. |
© Zena Wilmot
Support the campaign at: www.woodland-trust.org.uk/tirgawen
Cefnogi’r ymgyrch, sef: www.woodland-trust.org.uk/tirgawen
Back to home page |
|---|