Gweithgareddau’r Goedlan gyda Mentro Allan
Imogen Pettitt Dydw i ddim yn gweld llawer o bobl yn y coedwigoedd gyda chlipfyrddau ac y mae'r rhai yr ydw i’n eu gweld fe ddychmygaf yn edrych ar ffwng gludiog prin neu gen cerrig cigysol. Rydw i wedi dod yn un o’r rhai hynny sy’n cario clipfwrdd! Rwy’n astudio pobl ac yn benodol beth sy’n cael pobl i fynd y tu allan ac i symud o gwmpas. Mae’n rhan o brosiect peilot cenedlaethol (o’r enw Mentro Allan/Venture Out). Rydym wedi trefnu digwyddiadau ac yna rydym yn gofyn i’r cyfranogwyr beth arall yr hoffent ei wneud. Trwy wneud hynny rydym yn creu darlun o’r hyn sy’n cael pobl i fynd allan ac i wneud pethau yng nghefn gwlad.
Mae hyn i gyd yn ymwneud â manteision bod yn actif yng nghefn gwlad i iechyd ond nid o anghenraid drwy chwaraeon. Gall coedwigoedd fod yn lleoedd gwych i gychwyn ohonynt. Mae pobl yn cael eu tynnu at goedwigoedd am resymau gwahanol iawn. Mae rhai yn mwynhau dysgu am natur, gwneud rhywbeth creadigol, cymdeithasu neu ddysgu sgiliau newydd. Rhowch wybod inni beth a barodd i chi fynd allan ac efallai y gallwn gynnal digwyddiad tebyg.
Gall gweithgareddau fod yn rhai cyffredinol, fel y teithiau i ddysgwyr Cymraeg i ymarfer eu sgiliau iaith, lle gall unrhyw un ymuno. Mae rhai yn fwy penodol, a dim ond rhai aelodau o grwp arbennig a allai gael eu gwahodd, er enghraifft y grwp Iechyd Meddwl lleol. Gyda’r grwp Iechyd Meddwl rydym yn cynnal sesiynau Iechyd yn y goedlan. Mae’r rhain ychydig fel ysgol goedwig i oedolion. Mae’r grwp yn casglu o amgylch y tân gyda chylch o’i amgylch gyda chysgodfan mewn ty crwn ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn amrywio o grefftau fel ffeltio, cerdded, plannu hadau coed, coginio ac adeiladu strwythurau newydd fel ty crwn neu hyd yn oed doiled!
Rydym hefyd yn gweithio gyda’r tîm ieuenctid lleol. Rydym wedi gwneud llawer o weithgareddau gan gynnwys garddio a beicio mynydd ac wedi dechrau ar raglen o sgiliau goroesi hynod gyffrous gyda’r amcan o’u cael i fynd allan i’r coedwigoedd am ddyddiau ar y tro!
Rydym yn cydnabod y gall rhai grwpiau o bobl ei chael yn fwy anodd i fynd allan o’r ty ac rydym yn targedu rhai gweithgareddau yn benodol ar eu cyfer. Un grwp yr ydym yn ymdrechu yn hynod o galed i’w cyrraedd yw rhieni plant bach. Rydym wedi bod yn cynnal gweithgareddau gyda a heb eu plant, gyda cheufadu er enghraifft (nid efo’r plant bach!) a theithiau i lan y môr gyda bwyd a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn creu celfyddyd tir wedi ei ysbrydoli gan artistiaid fel Andy Goldsworthy.
Rydym yn falch iawn o allu gofyn i bobl beth yr hoffent ei wneud ac yna ei ddarparu ar eu cyfer. Os ydych yn byw yn ardal Machynlleth hoffem glywed oddi wrthych hefyd. Cysylltwch â ni ar 01654 703965 neu edrychwch ar ein gwefan: www.ecodyfi.org.uk
Back to Home Page... |
Photo by Zena Wilmot |