Diwrnod Rhwydweithio

Coedlannau Cymunedol

Adroddiad

Hydref  2007

 Trefnwyd a chynaliwyd gan Grwp Coedlan Nanteos

a chefnogwyd gan y Rhwydwaith Coedlannau Cymunedol a Choed Lleol

 

Ar Hydref 12fed 2007 daeth pobl yn cynrychioli’r amrywiaeth o weithgareddau sy’n ymwneud â choedlannau Cymru at ei gilydd yn Neuadd Bentref Llanfarian.  Prif amcan y diwrnod oedd cynnig cyfle i grwpiau ac unigolion sy’n ymwneud â choedlannau i drafod eu prosiectau gyda grwpiau coedlannau gwirfoddol eraill yng Nghymru. Roedd yn gyfle gwych i ddarganfod mwy am reoli coedlannau, cyllid, yswiriant, cyfansoddiadau, ysgolion coedwig ac ati.

 

Ar ôl rhagarweiniad bywiog gan Matthew Young o Grwp Coedlannau Nanteos, rhoddodd Jerry Langford olwg gyffredinol ar waith yr Ymddiriedolaeth Coedlannau yng Nghymru.  Dilynwyd hyn gan ddiweddariad gan Katy Harris ynglyn â chynnydd prosiect Coed Lleol.  Cyflwynodd Stephen Buckley o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru strategaeth Gwell Coedwigoedd i Gymru a siaradodd am bwysigrwydd cymdeithasol coedwigoedd.

 

Neilltuwyd rhan fawr o’r bore i rwydweithio anffurfiol.  Roedd yn wych gweld pawb yn siarad â’i gilydd yn frwdfrydig, yn cyfnewid syniadau ac yn ffurfio cynlluniau newydd.  Darparwyd cinio bwffe a dewis o gacennau blasus, heb anghofio’r te a’r coffi oedd wrth law i helpu i gadw pawb mewn hwyliau da.

 

Daeth ymweliad yn y prynhawn i Goedlan Coed Tyllwyd, a reolir gan Grwp Coedlan Nanteos, â’r cyfan yn fyw gydag arddangosfeydd o felin lifio symudol, tynnu coed o’r safle gan ddefnyddio ‘shute’, rheoli coedlan yn gynaliadwy, gweithio gyda choed gwyrdd a cherflunio.  Siaradodd Matthew Young am brofiadau Grwp Coedlan Nanteos o ran sefydlu’r prosiect hwn a’r llwyddiannau a’r anawsterau.

 

Mae’r adborth o’r digwyddiad hwn wedi bod yn gadarnhaol ac mae brwdfrydedd a momentwm bellach i gynnal digwyddiad tebyg yn y Flwyddyn Newydd.  Os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech fod yn rhan o’r digwyddiad nesaf yna a fyddech gystal â galw Katy neu Zena ar 01970 890441 neu ebostiwch coedlleol@smallwoods.org.uk.

 

Hoffai Coed Lleol ddiolch i Grwp Coedlan Nanteos am gynnal y digwyddiad hwn ac am gefnogaeth y Rhwydwaith Coedlannau Cymunedol.  Hoffem yn bennaf oll ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn teithio ar draws Cymru i gyrraedd y diwgyddiad hwn.

Rhestrir isod rai o’r sefydliadau a gynrychiolwyd yn y digwyddiad rhwydweithio hwn:

 

Grwp Coedlan Nanteos 

www.nanteoswoodlangroup.co.uk

Rhwydwaith y Coedlannau Cymunedol

www.woodland-trust.org.uk/communitywoodlandnetwork

Coed Lleol

www.coedlleol.org.uk

Comisiwn Coedwigaeth Cymru

www.forestry.gov.uk/wales

Cymdeithas y Coedwigoedd Bychain

www.smallwoods.org.uk

Canolfan y Coedwigoedd Gwyrdd 

www.greenwoodcentre.org.uk

Coppicewood College

www.coppicewoodcollege.co.uk

Coetir Mynydd

www.coetirmynydd.co.uk

A4E (Gweithredu dros Gyflogaeth)

www.a4e.co.uk

Ymddiriedolaeth Coed y Bobl

Cwmni Cydweithredol Gweithwyr ‘Growing Heart’

www.growingheart.co.uk

Treftadaeth Llandre

www.llandre.org.uk

Canolfan y Dechnoleg Amgen 

www.cat.org.uk

Cynllun Addysg Coedwig Dyfi 

www.dyfifei.btik.com

Cydbwysedd mewn Natur/Balance into Nature

 

Creuddyn Conservation

 

 

 Hafan...

ffotograffau gan Grace Crabb a Judy Walker