|
“ Ailgysylltu Cymunedau a Choedlannau”
Diwrnod o rwydweithio a thrafod ar gyfer Grwpiau Coedlannau Cymunedol, mentrau cymdeithasol, crefftwyr coedlannau a rheolwyr coedlannau bychain
Dydd Gwener, 7 Mawrth 2008, 9.30am i 5.00 pm
Cydlynir y digwyddiad hwn gan Coed Lleol a y Canolfan y Dechnoleg Amgen,
gyda chymorth oddi wrth Rwydwaith y Coedlannau Cymunedol
Lleoliad: Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth, Powys
Cost: Mae lleoedd yn costio £10 yr un ac yn cynnwys cinio llysieuol.
AM DDIM ar gael i aelodau o grwpiau coedlannau cymunedol yng Nghymru (un lle am ddim i bob grŵp).
Archebwch yn fuan i gadw eich lle!
Poster (PDF 477KB)
Ffurflen (doc 31KB)
Bydd siaradwyr a gweithdai yn ymdrin â’r pynciau canlynol:
- Marchnata Cynnyrch Coedlannau mewn Dull Cydweithredol: rhoddir Golosg Bioranbarthol fel enghraifft
- Coedlannau fel Adnodd ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol
- Beth nesaf ar ôl Cyd Coed? Sesiwn o danio syniadau ynglŷn â dyfodol coedlannau cymunedol yng Nghymru.
- Cysylltu â’r gymuned a sut i gynyddu aelodaeth eich grŵp coedlannau
- I weld boeler sglodion coed CHP newydd CAT a choedlannau sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy
- Bydd digon o amser i rwydweithio a thrafod yn anffurfiol.
|
Dewch i rannu eich profiadau eich hun a sôn am yr hyn yr ydych wedi ei gyflawni a chael eich ysbrydoli gan brosiectau coedlannau eraill!
|