Bioamrywiaeth ac Asesiad Effaith Amgylcheddol:Monitro a gwerthuso ar gyfer Ysgol Coedwig
Mae gan Ysgol Coedwig Cymru rai digwyddiadau hyfforddi newydd i gefnogi arferion da o ran rheoli coedlannau yn safleoedd Ysgol Coedwig Cymru. Aeth Coed Lleol i ddiwrnod hyfforddi Fforwm Canolbarth Cymru a gynhaliwyd yn safle Ysgol Coedwig Ty Gwyn ger Forge, Machynlleth. Arweiniwyd y gweithdy gan Rosie Carmichael, Arweinydd Ysgol Coedwig a Swyddog Cadwraeth Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin. Amcan y diwrnod hyfforddi hwn oedd rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau oedd yn angenrheidiol i ystyried hanes coedlan a’i bioamrywiaeth, ac i fesur a monitro effaith gweithgareddau ar yr amgylchedd hwn.
“Fel ymarferwyr sy’n ymwneud ag Ysgolion Coedwig dylem fod yn ymwybodol o’r effaith y gall gweithgareddau eu cael ar ein coedlannau, pam fod hyn yn bwysig a sut y gallwn fonitro hyn. Mae angen i ni allu arddangos arfer gorau pan ddaw yn fater o ddatblygiad cynaliadwy”, Rosie Carmichael.
Bydd unrhyw weithgaredd a wneir yn y coedwigoedd yn cael rhyw fath o effaith, ond nid yw hyn yn golygu na ddylai pobl ddefnyddio’r goedwig. Mae coedlannau wedi bod yn rhan hanfodol o’n hanes a’n treftadaeth. Gall edrych ar y defnydd a wnaed o’r goedlan yn y gorffennol helpu i roi ffurf ar gynllun rheoli’r dyfodol. Os hoffech olrhain hanes eich coedwig yna cysylltwch â’ch Cyngor neu eich Ymddiriedolaeth Archeolegol leol. Mae Mapiau’r Degwm ar gael o tua 1840 ac o tua 1880 ymlaen mae’n bosibl fod mapiau Arolwg Ordnans ar gael. Mae rhai o’r rhain yn nodi’r math o goed oedd yn bresennol ar safle a sut yr oeddent yn cael eu rheoli.
Mae’n arfer da cadw cofnod o newidiadau yn y goedwig a nodi ardaloedd o ddiddordeb arbennig neu rai sy’n arbennig o fregus. Canolbwyntiodd y diwrnod hyfforddi ar ddulliau sylfaenol o fonitro’r goedlan, gan gynnwys ffotograffiaeth o bwynt sefydlog, trawsluniau a chwadradau.
Ymweliadau safle dilynol
Mae Amgylchedd Cymru ar hyn o bryd yn cyllido’r hyfforddiant hwn sy’n cael ei gyflwyno ym mhob un o ranbarthau Ysgol Coedwig Cymru. Os oes gennych ddiddordeb yn hyn neu mewn hyfforddiant tebyg i chi eich hun neu os hoffech gynnal digwyddiad hyfforddi yn eich safle coedlan chi yna cysylltwch â Choed Lleol.
Cysylltiadau defnyddiol:Ysgol Coedwig Cymru: http://www.forestschoolswales.org.uk
Amgylchedd Cymru: http://www.environment-wales.org
Cyngor Sir Caerfyrddin: http://www.carmarthenshire.gov.uk
Back to Home Page... |
Photos by Zena Wilmot and Mel Chandler |